Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

cynllun bwriedir i'r meddyg teulu chwilio'r ysbytai am y pecynau gorau, yna gwneud cytundebau â nifer ohonynt, rhai lleol ac eraill ymhell, un ai o fewn y Gwasanaeth Iechyd neu yn y sector preifat. Cyfyngir y categorïau o afiechydon a chyfeiriadau, er enghraifft nid yw achosion brys yn cael eu cynnwys. Gall y cwestiwn godi, a oedd achos arbennig yn achos brys ynteu a oedd y meddyg yn ceisio arbed ei gyllid? Amcan arall yw cadw cleifion allan o'r ysbytai drwy baratoi gwasanaethau yn y feddygfa neu yn y cartref. Efallai byddai practis yn awyddus i wneud cytundeb gydag ymgynghorydd â chymwysterau arbennig mewn trin clefyd melys iddo gynnal clinig yn y practis. Sut fyddai hynny'n ffitio i mewn i'w gytundeb gyda'r awdurdod iechyd, a pha effaith a gâi ar ei wasanaeth i gleifion eraill? Nid yw manylion llawer agwedd ar y syniadau newydd wedi cael digon o ystyriaeth. Cwyd problemau mawr wrth osod y cytundeb os yw'r meddyg teulu i chwilio am y pecyn gorau mewn ysbytai pell ac agos, dan y Gwasanaeth ac yn y sector preifat, oherwydd nifer o ffactorau. Bydd yn hawlio gwybod pa mor fuan fydd yr apwyntiad, os oes sicrwydd y bydd y claf yn gweld yr arbenigwr ei hun, trefniadau adolygu, a pha mor gyflym y daw llythyr adroddiad. Os yw'r claf wedi bod mewn ysbyty ymhell i ffwrdd, beth fyddai'n digwydd mewn achos o gymhlethdod wedi iddo ddychwelyd gartref? Nid oes angen ymhelaethu ar y problemau clinigol. Yn ychwanegol, rhaid cofio fod agwedd ariannol, ennill un uned neu ysbyty yw colled rhai eraill pan newidia patrwm cyfeirio. Os bydd nifer y practisau yn y cynllun yn fawr, bydd cyfanswm eu cyllidebau yn rhan sylweddol o gyllideb unrhyw Awdurdod Iechyd, (rydym yn ymdrin â chyllidebau o dri chwarter miliwn o bunnau neu ragor). Gall amharu ar ysbyty neu uned fechan, a bydd pwysedd ar y meddyg teulu i newid ei batrwm cyfeirio. Dyma'n union y bwriad, rhoddi pwysau masnachol, ond nid yw'r farchnad iechyd yr un fath â marchnadoedd eraill lle mae busnesau yn methu talu ac yn cau. Mae yna bosibilrwydd o wrthdaro a cholli ffydd ym mherthynas y claf â'i feddyg. Gall y claf neu ei deulu feddwl fod penderfyniad i gyfeirio neu i beidio â chyfeirio, i ragnodi neu i beidio rhagnodi, wedi ei reoli gan stad cyllideb ar amser arbennig. Beth yw'r manteision i'r practis? A fyddant yn sylweddol i'r meddygon a'r cleifion? Os felly, fydd yna wasanaeth ddwy safon yn bodoli? A fydd y cyhoedd yn gweld manteision o berthyn i'r math yma o bractis, a chymryd mantais ar yr hawl i newid yn rhwydd? (Problem fwy i'r practis bach nag i'r practis mawr). Dyma fantais annheg i'r ychydig bractisau mawrion, ac os byddai llawer yn trosglwyddo gallai rhai practisau bychain fethu â goroesi, a byddai practisau yn gorfod colli un partner (nid yw'n hawdd colli partner). Ar y llaw arall, tybed fydd y cyhoedd yn gweld anfanteision o berthyn i bractis mawr o fewn y cynllun? Yn sicr, rhaid i bob practis roddi gwybodaeth am ei statws cyllidebol yn nhaflen newydd y practis. Fel mewn unrhyw fusnes, ar ddiwedd blwyddyn fe all fod arian yn weddill,