Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yn Llun 2 cofnodir patrwm oedran/rhyw y cleifion nad ysgriniwyd am bwysedd gwaed. Nid oedd gennyf unrhyw system ysgrinio ffurfiol yn ystod y cyfnod hwn. Manteisiwyd ar unrhyw gyfle i wneud mesuriad. Ers Ebrill 1990 mae pob aelod newydd o'r practis yn gweld y nyrs am ysgriniad. Yn Llun 3 cofnodir y canrannau o bob oedran sydd â chofnod o ysgriniad. Sylwch fod nifer sylweddol o ddynion ifanc, rhwng 20 a 40, heb eu sgrinio. Tybiais fod dynion o'r oedran yma yn annhebygol o fynychu'r feddygfa. Ond nid hwn yw'r gwir reswm. Mae Llun 4 yn dangos patrwm y cleifion heb unrhyw gofnod o ymgynghoriad ers tair blynedd, a Llun 5 yn dangos canrannau o bob oedran sydd â chofnod o ymgynghoriad dros yr un cyfnod. Ffaith drawiadol yw cyn lleied o ferched sydd yn cadw draw o'r feddygfa. Dim ond un ferch rhwng 20 a 64 sydd heb fod i'm gweld. Ac yn wir, mae dadansoddiad pellach o'r merched sydd heb ddod, 44 ohonynt, yn dangos fod hanner y rhain wedi dod i'r feddygfa gyda chofnod ar bapur yn unig. Mae merched yn amlwg yn teimlo'n iach am gyfnod byr cyn cyfarfod y gwr, ac eto am gyfnod byr ar ôl cael gwared ohono! Mae dynion yn fwy tebygol o gadw draw, ond eto mae mwy na 80% o unrhyw oedran yn ymgynghori mewn tair blynedd ac yn rhoi cyfle i fesur pwysedd gwaed. Mae'n sicr fod y methiant cymharol i sgrinio dynion ifanc ynghlwm â thueddiad y meddyg i ymboeni mwy am orbwysedd gwaed yn y canol oed. Gwelir paham yn Llun 6. Roedd cyfanswm o 130 â phwysedd gwaed uchel, 5 ohonynt yn unig dan ddeugain. Yn ôl ffigwr 4 roedd 121 o ddynion rhwng yr oedrannau 40-59 heb gael ysgriniad pwysedd y gwaed ers 3 blynedd. Mi benderfynais fanylu ar y grwp yma, yn eu hystyried yn bwysicach na'r un arall, â chysidro patrwm gorbwysedd yn y practis. Fe welwch (Llun 7), fod 70% wedi cael eu sgrinio, ac fe ymddengys fod 89% wedi bod yn y feddygfa. Awgryma hyn nad oes angen trefnu system ffurfiol eang i sgrinio, os yw'r meddyg yn cloriannu'r angen am fesur y pwysedd, ac yn arbennig pan welir gwr ifanc, nad yw'n debygol o ddychwelyd i'r feddygfa am flynyddoedd, o bosib. I'r diben yma mae cyfrifiadur yn anhepgor. Mae'n galluogi'r meddyg weld, wrth bwyso un botwm, pa bryd y mesurwyd y pwysedd ddiwethaf. Mae hefyd yn galluogi gweinyddes y practis i adnabod yn hawdd y rhai sydd heb eu sgrinio, a sianelu ymdrechion y practis i'r cyfeiriad mwyaf effeithiol. Golyga hyn wneud cryn ddefnydd o'r hen sffig. Mae hyn yn amlwg yn y defnydd a wnaed ohono yn ystod chwe mis cyntaf 1990. (Llun 8). Os diystyrir y rhai y gwyddys eisoes eu bod yn dioddef o orbwysedd (Llun 9), gwelir fod 439 wedi eu sgrinio mewn cyfnod o chwe mis.