Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Profion Awdioleg yn yr laith Gymraeg Dr Dafydd Stephens, Dr Glyn E. Jones Rhagarweiniad Mae gan brofion llafar ran bwysig yn y broses o fesur clyw. Maent yn llai manwl na rhai profion sydd yn defnyddio tonau, ond mae ganddynt werth mawr mewn termau realistig. Nid oes eisiau i ni gyfiawnhau i'r Gymdeithas Feddygol yr angen am radd lawn o brofion llafar yn yr iaith Gymraeg. I gynulleidfa ehangach fodd bynnag, mae'n werth nodi, er bod unigolyn, o dan amodau gwrando delfrydol, yn gallu ailadrodd geiriau yn ddiogel yn ei ail iaith, unwaith y gostyngir y gormodedd (redundancy) y mae'r perfformiad yn yr ail iaith yn dirywio (1). Achosir gostyngiad yn y gormodedd yn y llafar os caiff ei gyflwyno wedi ei ridyllu (filtered) neu yn erbyn cefndir o swn. Gellir cael gormodedd is yn y claf o ganlyniad i anhwylder yn effeithio ar y glust fewnol neu yn llwybrau clyw y system nerfau. Beth yw Diben y Profion Llafar? Gellir defnyddio profion llafar i asesu clyw, gwefus-ddarllen a chyfuniad o brofion megis gwefus-ddarllen ynghyd ag ysgogiad awditori trydanol. Mae gan y dull olaf Ie pwysig i fesur mewnblannu cochlear (cochlear implants). Dangosir gwahanol swyddogaethau profion llafar ar Tabl 1. I ganfod problemau clyw ymhlith plant ifanc gan ymwelwyr iechyd, defnyddir Prawf Clyw Darluniadol Dyfed a ddatblygwyd gan Bethan Holding, Jill Holding ac Ann Owen (2,3). Hwn oedd y prawf llafar cyntaf i'w ddatblygu yn y Gymraeg ac fe'i seiliwyd ar 'Picture Screening Test for Hearing' gan Michael Reed (4). Yn y prawf hwn dangosir cerdyn ac arno bedwar llun i'r plentyn; mae enwau'r pedwar llun yn cynnwys gwahanol gytseiniad, ond yr un llafariad sydd ynddynt, e.e. (yn iaith y De!) Haul- Braich Paent- Cae. Mae'r sawl sy'n gwneud y prawf yn sefyll chwe troedfedd tu ôl i'r plentyn ac yn dweud mewn sgwrs normal, "Dangoswch y cae". Defnyddir cardiau eraill a sibrwd, ac os oes unrhyw blentyn heb ymateb yn gywir ddwywaith neu dair ar lefel sibrwd, yna mae'n cael ei anfon am ymchwiliad awdiometrig. Mae defnyddio profion llafar i benderfynu trothwy clywed yn ddefnyddiol iawn gyda phlant bach sy'n ei chael hi'n anodd i ddeall y syniad o drothwy i donau pur. Maent hefyd yn ddefnyddiol i gadarnhau trothwy tôn bur oedolion nad ydynt yn holliach. Daw hyn â ni at y defnydd cyntaf mewn diagnosis, lle, trwy ddefnyddio dulliau cyflwyno priodol, neidio o un lefel decibel i'r llall, gellir defnyddio y prawf llafar i ganfod, ac yn aml i fesur colli clyw anorganig. Gall colli clyw o'r fath ddigwydd i bob math o gleifion, o'r sawl â gwir ddiffyg clyw seicogenig i'r