Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Prawf Gwefus-ddarllen Llandudno Dafydd Stephens, Glyn Jones a Rhys Meredith Rhagarweiniad Yn y papur a roesom yng nghyfarfod Y Gymdeithas Feddygol yn Llandudno (1), cyfeiriwyd gennym at y cryn wahaniaeth yn adnabod y gytsain '!Г a gawsom o siaradwr i siaradwr. Yn y cyfarfod, yn rhannol er mwyn casglu data newydd ac yn rhannol er mwyn dangos natur y gwaith, rhoesom brawf gwefus-ddarllen i'r gynulleidfa. Yr oedd y prawf yn cynnwys 4 siaradwr (dyn a menyw o Ddyfed ac o Wynedd) yn cynanu'r deg cytsain a gymysgwyd â mewn astudiaeth gynharach (2). Llefarwyd pob cytsain rhwng y llafariad /a/, hynny yw, ARA ac yn y blaen. Y diben oedd cael data newydd am y cymysgu rhwng y tair cytsain a geir yn y Gymraeg ond nid yn y Saesneg, sef '11, rh, ch' r, s/. Yn y papur hwn trafodwn ganlyniadau'r prawf nid yn unig am y bydd o ddiddordeb i'r rhai a gymerodd ran ynddo ond hefyd am fod y canlyniadau'n gyfraniad tuag at ein deall o grwpiau feisim (viseme) yn y Gymraeg. Dull Recordiwyd ar fideo y deg cytsain Gymraeg 'c,g,ch,d,r,rh,s,l,ll' ac 'i' gytsain), /k,g,x,d,r,r,s,l, ,j/, rhwng y llafariad /a/, e.e. /ada, asa/ ac yn y blaen. Roedd yn recordiad fidio o'r wyneb yn llawn ac fe'i gwnaed yn stiwdio recordio fidio Adran Darlunio Meddygol, Coleg Meddygol Prifysgol Cymru, Caerdydd. Gwnaed y recordiadau mewn lliw ar recordydd Sony U-matic er mwyn eu golygu'n ddiweddarach. Defnyddiwyd pedwar siaradwr Cymraeg brodorol, gwryw a menyw o Ddyfed a gwrw a menyw o Wynedd i'w recordio. Roedd y pedwar ar staff Ysbyty Prifysgol Cymru/Coleg Meddygol Cymru. Cynanodd pob llefarydd y cytseiniaid prawf mewn hapdrefn. Llefarodd y llefarydd cyntaf, gwryw o Wynedd, hwy ddwywaith mewn trefn wahanol. Roedd 5 eiliad o saib rhwng pob eitem brawf. Yn y golygu, dangoswyd ar y fidio pa gytseiniaid a lefarodd y siaradwr cyntaf yn ei set gyntaf. Rhifwyd ail set ei gynaniadau a rhai'r tri llefarydd arall 0 1-40 wrth eu golygu. Yna copïwyd y recordiad ar dâp VHS a'u chwarae ar sgrîn lliw 24" yn y cyfarfod yn Llandudno. Y Gynulleidfa Gwahoddwyd yr holl gynulleidfa a oedd yn y cyfarfod i gymryd rhan yn y prawf. Roeddynt i gyd ymron yn feddygon ac yn medru'r Gymraeg oll bron yn siaradwyr brodorol. Cymerodd cyfanswm o 39 ran. Gofynnwyd i bob un yn bresennol gwblhau taflen ateb yn ddienw, ond gofynnwyd iddynt nodi eu grwp oedran, eu sir enedigol a'r sir yr oeddynt yn gweithio ynddi ar hyn o bryd. Mae