Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Homeopathi Pam Lai? Dr Paul Nickson Mae homeopathi wedi bod yn bwnc dadleuol ers ei sefydlu gan Dr Samuel Hahnemann bron i ddau gan mlynedd yn ôl. Serch hynny, mae nid yn unig wedi goroesi ond hefyd mae'n dal i ffynnu, er gwaethaf gwrthwynebiad a gwawd gan sefydliadau meddygol a gwyddonol. Mae'r teulu brenhinol yn ei ddefnyddio, ac mae ar gael yn y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol. Mae'n boblogaidd yn Ewrop, ac yn Ffrainc mae 25% o'r holl feddygon yn ei ymarfer ac mae meddyginiaethau homeopathig ar gael mewn ugain mil o fferyllfeydd yno. (1) Mae llywodraeth India yn ei gefnogi, ac yn America Ladin mae tua deng mil o feddygon yn ei ddefnyddio. (1) Ym Mhrydain mae tua dau gant o feddygon a thros bum cant o gymdeithion meddygol yn aelodau o'r Gyfadran Homeopathig. Mae'r nifer sydd dan hyfforddiant gan y Gyfadran Homeopathig wedi cynyddu dros 5% yn y pum mlynedd diwethaf. Rwyf am rannu fy sylwadau yn bedair rhan: 1) Rhagarweiniad i egwyddorion homeopathi. 2) Bwrw golwg ar dystiolaeth glinigol sy'n ei gefnogi. 3) Rhoi enghreifftiau o'r meddyginiaethau sy'n cael eu defnyddio. 4) Awgrymu sut y gellir ei gynnwys mewn meddygaeth deuluol. Rhagarweiniad i Egwyddorion Homeopathi Wrth gyflwyno egwyddorion homeopathi hoffwn bwysleisio pedwar pwynt. Yn gyntaf, rydym yn dadlau fod cyflwr sylfaenol clefyd yn cael ei ddangos yng nghyfanswm symptomau'r claf, a'u bod yn cynnwys ymateb ffisegol ac emosiynol y claf i'r salwch yn ogystal â'r symptomau amlwg. Yn ail, pan mae rhywun yn derbyn triniaeth homeopathig mae'n cael dos fach o ddefnydd, a phe bai dos fwy yn cael ei roi i berson iach buasai'n cynhyrchu symptomau tebyg i rai y salwch dan driniaeth. Buasai'r ddos hon yn symbylu gallu'r unigolyn i'w wella ei hun. Yn drydydd, mae meddyginiaethau homeopathig yn cael eu paratoi drwy broses o deneuo sawl gwaith, a phob teneuad yn cael ei ddilyn gan ysgydwad nerthol a elwir yn "succussion" yn Saesneg. Mae'r broses hon, sy'n cael ei galw'n "potentization" yn Saesneg neu "nertholiad", yn rhyddhau a chynyddu priodoleddau therapiwtig na fyddent yno fel arall. Mae'r rhain yn effeithiol hyd yn oed mewn crynodiadau is-folecwlar. Yn olaf, mae cyfanswm y symptomau sy'n cael eu cysylltu efo'r feddyginiaeth yn ffurfio'r hyn a elwir "llun cyffur" o'r feddyginiaeth. Dewiswn y feddyginiaeth drwy gymharu cyfanswm y symptomau a ddisgrifir gan y claf efo cyfanswm symptomau'r feddyginiaeth. Samuel Hahnemann oedd y meddyg Almaenig a sefydlodd homeopathi yn