Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Llawfeddygaeth y Rhydwelìau a'r Gwythiennau Mr William Tudor Davies Gweithiaf ym maes Llawfeddygaeth Gyffredinol, ond gan mai fy maes arbennig yw anhwylderau fasgwlar bwriadaf drafod yn fyr driniaethau llawfeddygol y rhydwelïau ac anhwylderau'r gwythiennau. Fe ystyriwn yn gyntaf broblem atherosglerosis, sef anhwylder sy'n dod i ran llawer un ar yrfa bywyd. Yn Llun 1 fe welir clwt o atheroma tu mewn i lwmen y rhydweli ffemwrol: tyfiant yw hwn tu mewn i'r llestr, a'r canlyniad yw culhau'r rhydweli gan rwystro rhediad naturiol y gwaed tuag i lawr. Ni ddaw'r prinder gwaed yma'n amlwg ar y dechrau oddieithr pan ddefnyddir y cyhyrau. Cwyna'r claf ynghylch cloffni ysbeidiol, ac effaith hynny yw y gall gerdded rhyw ganllath cyn gorfod cymryd saib i leddfu'r boen yng nghyhyrau croth y goes. Wedi saib gall gerdded canllath arall fwy neu lai. Fe elwir hyn yn claudication, o'r Lladin yn golygu hercian, a dyna'n union nodwedd yr anhwylder yma. Pan waethyga'r diwaededd daw poen a elwir poen gorffwys (rest pain) i'r droed. Gan fod y boen yma'n un barhaol, erchyll, ac annioddefol, golyga hyn yr artaith fwyaf difrifol fedr ddod i ran rhywun. Heddiw fe gawn fwy na digon o gynghorion ynghylch ein hymborth a'n dull o fyw. Diau fod y pethau hyn yn elfennau pwysig a pherthnasol yn nhwf atherosglerosis; ond yn bersonol credaf yn bendant mai'r arferiad o ysmygu sigarets sy'n bennaf gyfrifol am gynnydd yr afiechyd yma sydd yn gwneud triniaeth lawfeddygol yn anghenraid. Ag eithrio cleifion diabetig, mae pob dioddefydd a archwiliaf naill ai yn ysmygu neu wedi bod yn ysmygu hyd yn ddiweddar. Bûm yn gyfrifol am waith ein Clinig Fasgwlar yn Ysbyty'r Brifysgol, Caerdydd am un mlynedd ar bymtheg, a chydol y cyfnod maith yma gallwn gyfrif ar fysedd un llaw y nifer ddaeth i'r clinig nad oeddynt yn ysmygwyr. Er enghraifft dengys Llun 2 ddwylo dioddefydd anffodus a gollodd, oherwydd smocio, amryw fysedd neu rannau o fysedd drwy lawfeddygaeth. Sylwer ar y staen sy rhwng bonion y bysedd; staen melyn nicotin sy'n profi methiant y dioddefydd i drechu'r arferiad atgas a chostus hwn. Gwnawn ein gorau i berswadio pobl i beidio smocio, nid oherwydd niweidiau cyffredinol yr arferiad ond oblegid ei fod yn bur debyg o amharu ar, a niweidio, canlyniad unrhyw driniaeth lawfeddygol. I brofi'r pwynt, wrth ail edrych ar Llun 2, credwch fi, mae'r dioddefydd yma erbyn hyn wedi colli ei ddwy goes a'i ddwy law; sefyllfa drist iawn onid e? Grwp arall sy'n dod i Glinig Fasgwlar yw rhai'n dioddef y clefyd melys; dônt gyda phroblemau traed gan amlaf. Cawn yma gyfuniad o ddiwaededd,