Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Astudiaeth o Therapi Swyngwsg mewn Meddygaeth Teulu Dr O. Llewelyn Jones Yn yr erthygl hon trafodir effaith therapi swyngwsg ar 393 o gleifion a welwyd yn olynol. Diffiniad o Swyngwsg Mae swyngwsg yn peri ymlaciad, ac arwyddion a symptomau ymlacio a welir mewn person dan ei ddylanwad. Nodweddion eraill trawiadol ydyw'r newid mewn amgyffred a'r cynnydd mewn parodrwydd i dderbyn awgrymiadau. Mewn swyngwsg mae gallu'r therapydd i gyflwyno awgrymiadau sydd, nid yn unig yn cael eu derbyn gan y claf, ond hefyd yn cael eu cyfannu yn ei feddwl yn un o golofnau'r therapi. Cafodd egwyddorion swyngwsg eu defnyddio ers canrifoedd, a chwaraeënt ran bwysig yng nghredo Ausclepiws. Er fod cymeriadau lliwgar, fel Franz Mesmer ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif, wedi defnyddio'r egwyddorion yn ddiarwybod iddynt eu hunain, bu rhaid aros hyd 1842 i Dr James Braid, llawfeddyg o Fanceinion, ddatgelu mai derbyn awgrym oedd cyfrinach llwyddiant therapi swyngwsg. Yn 1953 sefydlodd y Gymdeithas Feddygol Brydeinig weithgor o'r Grwp Seicolegol i ystyried ei effeithiolrwydd, a daethpwyd i'r farn ei fod yn driniaeth fuddiol, ac o bosib y dewis cyntaf mewn triniaeth afiechydon seicosomatig a seiconiwrotig. Fel canlyniad sefydlodd Y Gymdeithas Feddygol Frenhinol adran Swyngwsg a Meddygaeth Seicosomatig yn 1984. Gan mai ymlacio yw hanfod swyngwsg, gwelir dan ei ddylanwad newidiadau ffisiolegol sydd yn gyffredin i unrhyw gyflwr ymlaciol. Mae'r llygaid ar gau, mae'r amrannau'n plycio i fyny ac i lawr heb agor, ac mae'r croen yn gwelwi, arafa'r anadlu ac aiff yn ysgafnach, llyncir y poeryn yn amlach, ac mae'r coluddion yn swnllyd. Pwysleisir y gall person mewn swyngwsg gerdded o gwmpas gyda'i lygaid yn agored a'i gorff a'i feddwl yn gweithredu'n normal, heb unrhyw arwydd i'r gwrthwyneb. Ffynonellau Gwybodaeth am Swyngwsg Yn aml, daeth gwybodaeth yn anuniongyrchol yn sgîl ymchwil i broblemau amherthnasol i swyngwsg. Cyfeirir yn arbennig at waith arloeswyr yn gwahanu'r corpus callosum i lareiddio ffitiau dyfalbarhaol. Defnyddir swyngwsg fwyfwy mewn unedau arbenigol sydd yn astudio nam ar yr ymennydd fel canlyniad i niwed neu afiechyd. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf dygodd astudiaethau potensial anwythol ac atseiniad magnetig, a chanlyniadau arbrofion mewn labordai cwsg, swyngwsg i mewn i'r gyfundrefn wyddonol. Cyfrannodd y meysydd hyn yn sylweddol i'n dealltwriaeth o