Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Atodiad i 'Astudiaeth o Therapi Swyngwsg mewn Meddygaeth Teulu' Dr O. Llewelyn Jones Erbyn Gorffennaf 1990 roedd gennyf ganlyniadau astudiaeth o effaith swyngwsg ar 591 o gleifion a welwyd yn olynol. Parhad yw'r nodiadau canlynol o'r astudiaeth a amlinellwyd yn fy narlith i'r Gymdeithas Feddygol yng nghynhadledd yr Hydref 1989. Cynnwys y grwp 591 o gleifion, 429 ohonynt yn fenywod (73%) a 162 yn wrywod (27%). Danfonwyd yr un holiadur a ddisgrifiais eisoes i bob aelod o'r grwp, a hynny ymhen dwy flynedd o gychwyn y driniaeth. Cafwyd ymateb defnyddiol gan 378 (64%), sefyllfa foddhaol o ystyried fod cyfartaledd cyfeiriadau anghywir mewn unrhyw restr ar ôl dwy flynedd yn 17%. Nid oedd unrhyw wahaniaeth yn nosbarthiad oed, rhyw, na diagnosis yn y 213 o atebion anfoddhaol a dderbyniwyd o'u cymharu â'r atebion defnyddiol. Grwp yr Ysmygwyr 18 yn unig allan o gyfanswm o 91 oedd yn dal heb ysmygu ar derfyn dwy flynedd. Yn ychwanegol at fy sylwadau ar y rhyngweithiad rhwng caffin a nicotin, hoffwn bwysleisio fod ysmygu'n achosi dibyniaeth. Mae'n cychwyn fel rhyw fath o ddysg anghymwysiadol. Nid oedd fy nhriniaeth o ysmygwyr lawer mwy na gwneud awgrym, ac fe all fod yr 80% methiant yn ganlyniad i angen y cleifion am driniaeth a thechnegau seicdreiddiol neu hypnodreiddiol, sydd yn ddrud iawn, nid yn unig mewn arian i'r cleifion, ond hefyd mewn amser i'r therapydd. Ac mae hyn at gyflwr o ddibyniaeth nad yw'r claf yn aml yn fodlon ei gydnabod fel dibyniaeth. Y Grwp Gorbwysedd Cyfanswm y grwp oedd 58, ac ohonynt roedd 30 yn llai eu pwysau nag yr oeddynt ar ddechrau'r driniaeth, llwyddiant o 51%. Y Grwp Amrywiol Cynnwys y grwp yma 229 o gleifion gyda 167 ohonynt wedi cael budd o'u triniaeth (llwyddiant o 71.6%). Rhennir y grwp yn fras i ddau ddosbarth: 1. Nodweddir y dosbarth yma gan organ neu feinwe dargedol. Rwyf eisoes wedi trafod effaith swyngwsg ar rannau o'r corff sydd dan ddylanwad y system awtonomig. Yn ychwanegol yn y grwp yma cafwyd peth llwyddiant efo cyflyrau eraill, bu swyngwsg yn gymorth i leddfu poen rhithiol mewn aelod, i niweidiau madruddyn y cefn, ac i barlys ymledol