Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Datblygiadau Orthopedeg Mr Mel W. Jones Cyflwyniad Llawer blwyddyn yn ôl roedd trin toresgyrn a datgymaliadau yn waith y meddygon esgyrn yn hytrach na'r meddygon graddedig. Gan nad oedd anaesthetig ar gael yr adeg honno, roedd angen cryn dipyn o nerth i orchfygu sbasm cyhyrau'r claf. Oherwydd hyn, tueddai meddyg esgyrn i fod yn ddyn mawr, cyhyrog, yn aml yn ôf neu'n ffermwr. O'r fath gefndir y ganwyd orthopedeg. Mae'n hawdd gweld sut y datblygodd y rhagfarn fod yr ymarferwyr cynnar hyn yn greaduriaid mawr o gorff, yn araf y meddwl efallai, ac yn perthyn yn eithaf agos i'r epa. Mae rhagfarn o'r fath yn dueddol i barhau, a rhaid cyfaddef fod rhywfaint o dystiolaeth i gynnal rhai o'r honiadau hyn. Ymddangosodd erthygl ddireidus gyda'r teitl "Ai gorilau yw llawfeddygon orthopedeg?" (1) yn y Cylchgrawn Meddygol Prydeinig yn profi eu bod ychydig yn fwy yn gorfforol, gyda dwylo mwy, na llawfeddygon yn gyffredinol. Er gwaethaf y cefndir yma, mae datblygiadau niferus wedi digwydd yn y maes hwn. Ym meddygfa'r meddyg teulu mae cleifion gyda chwynion yn gysylltiedig ag esgyrn a chymalau yn gyffredin iawn. Gobeithiaf y bydd yr erthygl hon yn cyfleu'r datblygiadau i'r rhai sydd â diddordeb yn y maes ond heb fod ag amser i ddarllen y cylchgronau arbenigol. Rwyf wedi dewis pedwar pwnc sef: 1. Llawfeddygaeth dan y meicrosgob, 2. Amnewid cymalau di-sment, 3. Ymestyn hyd y coesau, 4. Triniaeth tyfiannau malaen esgyrn. 1. Llawfeddygaeth dan y Meicrosgob (2) Er fod y meicrosgob wedi cael ei ddefnyddio yn 1921 i gyflawni llawfeddygaeth ar y glust, offer cymharol newydd yw hwn i'r llawfeddyg orthopedeg. Crewyd diddordeb fel canlyniad i adroddiadau o'r Unol Daleithiau a Tseina ar ddechrau'r chwedegau o freichiau cyfan yn cael eu pwytho'n ôl i'r corff (3)(4). Yn ystod y blynyddoedd canlynol datblygwyd offer a thechnegau i alluogi'r llawfeddyg bwytho arterïau, gwythiennau a nerfau bychain (gyda thrawsfesur llai na 1mm) yn ôl i'w gilydd gan ddefnyddio meicrosgob sy'n chwyddo'r olygfa 10 i 20 o faint. Yn ogystal â meicrosgob, offerynnau arbennig a phwythau bychain iawn, mae angen llaw ddiysgog. Argymhellir peidio yfed coffi nac ymarfer corff am o leiaf 24 awr cyn gwneud y math yma o lawfeddygaeth oherwydd maent yn achosi cryndod. Mae'n bosibl symud darn o'r corff gyda'r arterïau a'r gwythiennau ynghlwm ag o fel impiad i ran hollol wahanol o'r corff. Ar ôl pwytho arterïau a