Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Seicoleg Cenedlaetholdeb Dr Dewi Lewis Fel Cymro Cymraeg teimlaf yn ddig iawn wrth feddwl am gyflwr ein gwlad a'n cenedl, a hyn a'm symbylodd i ddewis y testun hwn. Darlledwyd rhaglen deledu "Week in, Week out" yn ystod mis Chwefror 1990; roedd yn rhaglen dorcalonnus yn dangos fel mae canolfannau Cymreictod wedi cael eu diddymu dros yr ugain mlynedd neu ddeng-mlynedd-ar-hugain diwethaf. Y mae anffurfio unrhyw gymuned, bydded fawr neu fach, yn brofiad chwerw iddi; fe'i teimlir yn fygythiad ac yn drais oherwydd ei fod yn ymosodiad ar uniaethiad personol a chyfunol. Y mae mewnlifiad niferus (fel ag sydd wedi digwydd yng Nghymru) bob amser yn gyfystyr â goresgyniad. Yn anffodus ni fydd yn bosibl o fewn terfynau'r erthygl hon i ddelion deilwng â'n testun yn ei holl agweddau; cyfeiriaf yn unig at rai pethau, a hynny'n ddigon arwynebol. Cystal cydnabod nad oes gytundeb ar beth ydyw cenedl, ond rwyf am gynnig y syniad mai casgliad o unigolion yw cenedl, unigolion a nodweddir gan: a) gefndir genetig cyffredin; bydd y mwyafrif mawr yn dod o'r un cyff, ac yn cydnabod achyddiaeth gyffredin; b) hanes penodol; tiriogaeth, (y mae'r mwyafrif o genhedloedd yn berchenogion tiriogaeth); iaith neu ieithoedd; a threftadaeth ddiwylliannol hynny'n cynnwys crefydd a thraddodiad; c) rhagolwg emosiynol sy'n deillio o (a) a (b), ac sydd hefyd dan ddylanwadau: i. y rhagolwg economaidd a pholiticaidd sy'n ffynnu; ii. ystyriaethau o rai cyferbyniadau megis dominyddiaeth- ymostyngiad, a rhyddid-caethiwed. Y mae hyn yn gyffredin i fwyafrif mawr unrhyw genedl. Tu allan i'r fframwaith hwn gellir disgwyl nifer bach o estroniaid sy'n byw o fewn tiriogaeth neu amgylchedd y genedl. Pobl yw'r rhain nad oes iddynt ran na chyfran yn y cefndir genetig cyffredin, nac yn yr hanes penodol a'r rhagolwg emosiynol ac ati. Y mae'n bosibl, o dan rai amgylchiadau, sugno'r estron i mewn i'r gymuned genedlaethol, ond yn ymarferol nid yw'r fath gyfnewid yn beth cyflym, ac mae graddau ei gyflawniad yn ansicr. Dibynna'r cyfan ar allu'r estron i deimlo empathi â'r gymuned, a'i gymhellion i wneud hynny. Craidd cenedlaetholdeb ydi'r gallu i ymuniaethu â'r gymuned genedlaethol. ac rwyf am aros am ychydig gyda'r cwestiwn o uniaethiad, a gofyn beth yn hollol yw'r broses sy'n rhoi bod i uniaethiad. Mewn traethawd yn 1932 ar "Civilisation and its Discontents\ mae gan Freud awgrym diddorol a threiddgar. Cyfeirio y mae yn y llith honno at ein hanallu fel dynoliaeth i