Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Dyn Diabetig a'i Broblemau Rhywiol Dr Rhodri Huws Nid oes rhyw lawer o gytundeb ynglŷn â beth ydyw ymddygiad rhywiol normal, ac mae gwaith ymchwil Kinsey o 1948 i 1953 (1) yn dal i gael ei ddyfynnu. Roedd yna lawer o broblemau gyda gwaith Kinsey, ond gellir beirniadu ymchwil ddiweddarach yn yr un modd. Mae'n anodd mesur ymddygiad rhywiol, ac mae'n anodd darganfod sampl trawsdoriadol. Mae'n debyg fod ymddygiad rhywiol yn dibynnu ar y berthynas yn ogystal ag ar gyflwr corfforol a seicolegol y person. Nid oes amheuaeth fod hormonau yn chwarae rhan, ond nid yw'n glir i ba raddau y mae pwysau cymdeithasol yn dylanwadu ar ran hormonau yn yr hil ddynol. Mewn dynion, mae'n debyg fod y system rywiol ganolog, sydd yn rheoli awydd rhywiol, yn dibynnu ar hormonau gwrywol, yn enwedig testosteron. Ymddengys nad yw'r codiad yn dibynnu ar hormonau, ac ar wahân i'r tafliad, fod ymateb rhywiol normal yn bosibl hebddynt. Mae'n amlwg hefyd fod ymateb rhywiol yn y gwryw yn ddibynnol ar y system nerfol a'r system fasgwlar. Mae'n hynod ein bod yn dal i ddefnyddio gwaith ymchwil Semans a Langworthy yn 1938 ar gathod (2) fel sail ein syniadaeth am fecaniaeth y codiad. Yn ystod codiad mae pwysedd gwaed yn y corpus cavernosus yn codi, a hyn sy'n gwneud y gala yn galed. Mae llif y gwaed yn arterïau'r gala yn cynyddu'n driphlyg, ac os nad oes digon o lif, bydd effaith dirywiol ar y codiad. Mae'r gyfundrefn awtonomig hefyd yn chwarae rhan, ac mae'n debyg fod dau lwybr ar waith. Yn gyntaf y system seicdarddol, sydd yn ymateb i symbyliadau gweledol, arogl, swn, a dychymyg sydd yn cyffroi'r adrannau nwydol yn yr ymennydd. Mae'r system yma yn achosi codiad drwy weithrediad y system nerfol sympathetig ar lefel T12 a L1. Yn ychwanegol, mae yna system atgyrchol sydd yn achosi codiad drwy symbyliadau lleol fel cyffwrdd y gala. Mae'r system efferol yn rhan o system barasympathetig (nervi erigentes) sydd yn hanu o fadruddyn y cefn ar lefel S2 i S4. Mae'r system barasympathetig yn angenrheidiol i godiad atgyrchol, ond gall y system sympathetig a'r system barasympathetig beri codiad seicdarddol, a chodiad yn ystod cwsg. Yn aml mae achos seicolegol i broblemau rhywiol (Tabl 1). Gall y broblem ddeillio o brofiadau cynnar anfoddhaol, neu o brofiadau rhywiol trawmatig, a gall straen, salwch ac anawsterau yn y berthynas beri problemau. Mae problemau yn fwy tebygol os oes ymddygiad negyddol tuag at ryw ac os nad oes hunanbarch. Wedi i'r broblem ddechrau, gall anawsterau yn y gyfathrach, salwch, diffyg gwybodaeth a phroblemau seicolegol fel newrosis perfformiad, beri i'r diffyg barhau.