Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Meddygaeth yn Lesotho Dr Hywel Morris Ychydig dros dair mlynedd yn ôl sefydlwyd dolen rhwng Cymdeithas Feddygol Cymru a Chymdeithas Feddygol Lesotho dan adain Dolen Cymru, y mudiad sy'n hyrwyddo gwell dealltwriaeth a chyfeillgarwch rhwng Cymru a Lesotho. Y mae Lesotho, oedd yn cael ei hadnabod fel Basutoland cyn ei hannibyniaeth yn 1966, yn frenhiniaeth annibynnol oddi mewn i'r Gymanwlad, ond mae wedi ei hamgylchynu'n llwyr gan Weriniaeth De Affrica. Ni chynhaliwyd etholiadau oddi ar annibyniaeth; cyngor milwrol sy'n rheoli'r wlad bellach, ond er hynny mae cryn ryddid personol yn Lesotho o'i gymharu â llawer o wledydd eraill Affrica. Nid oes ychwaith y broblem o wrthdaro rhwng-dylwythol, (sy mor gyffredin mewn gwledydd cyfagos), gan mai un llwyth yn unig, y Basotho, sydd yn y wlad. Sesotho a Saesneg yw'r ddwy iaith swyddogol, a Christionogaeth yw crefydd y mwyafrif llethol, a'r ddau enwad mwyaf yw Eglwys Rhufain ac Eglwys Efengylaidd Lesotho. Fel rhan o'r ddolen rhwng y ddwy gymdeithas feddygol, lansiwyd apêl Ionawr, 1988, i gasglu offer meddygol yng Nghymru a'i ddanfon i Lesotho. Am amryw o resymau offer 'defnydd unwaith' yw'r norm yn ein Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, ond mae gwerth mawr i'r hen offer metel yn enwedig mewn gwledydd sydd yn datblygu. Wedi eu di-heintio'n ddigonol gellir defnyddio offer metel dro ar ôl tro, a hynny am ychydig ymdrech ac arian. Y dasg felly oedd perswadio ein haelodau i chwilota ym mhob twll a chornel o'u meddygfeydd a'u hysbytai i ddarganfod yr offer, eu casglu a'u didoli, ac yna eu danfon ymlaen i Lesotho. Bu'r ymateb i'r apêl yn rhagorol; yn wir, cafwyd cymaint o offer fel y bu'n rhaid defnyddio warws yng Nghorwen i storio'r rhoddion, ac ar un achlysur bu raid defnyddio lori cwmni symud ty i'w trosglwyddo! Erbyn mis Mehefin roedd y gwaith o ddidoli, glanhau a thrwsio'r offer wedi ei gwblhau a danfonwyd y llwyth, gwerth £ 40,000 ar brisiau heddiw, ar long i Lesotho. Ar wahoddiad Cymdeithas Feddygol Lesotho, ymwelodd Dr Gruff Jones, Treffynnon, trysorydd y Gymdeithas, a minnau â Lesotho yn ystod mis Hydref, 1988, i weld yr offer a ddanfonwyd yn cael eu defnyddio, i asesu'r angen ar gyfer danfon mwy o offer, ac i gyfarfod â swyddogion ein chwaer gymdeithas. Y gobaith oedd y byddai ein hymweliad yn cryfhau'r ddolen ac yn arwain at sefydlu cynllun fyddai'n galluogi meddygon o Lesotho dreulio cyfnod yng Nghymru i ddysgu sgiliau newydd ac i gael profiad mewn gwahanol feysydd. Byddai cyfle hefyd i fyfyrwyr a meddygon o Gymru fynd i weithio yn Lesotho, a thrwy hynny gryfhau'r ddolen mewn ffordd ymarferol iawn. Hedfan o Lundain i Johannesburg dros nos oedd y rhan mwyaf diflas o'r daith. Anodd oedd cadw'r brwdfrydedd am ddeuddeng awr ac amhosibl bron