Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Lle yr Heddlu yn y Berthynas rhwng y Claf a'r Meddyg Dr J. Aled Williams Mae'n bwysig cofio ein bod yn byw mewn cymdeithas sydd yn cynyddu mewn ffyrnigrwydd. Mewn astudiaeth yn Dundee yn 1986 darganfyddwyd fod 4 allan o bob 100 o gleifion yn debygol o ymateb yn ffymig, ac amcangyfrifwyd fod bygythiad yn digwydd mewn un allan o bum cant o ymgynghorion. (1) Yn Llundain cynyddodd y ganran o feddygon yr ymosodwyd arnynt o 0.3% mewn arolwg yn 1980 i 11% mewn arolwg a wnaed yn 1987. Ym Mirmingham yn 1989 cafwyd fod 91 o feddygon wedi dioddef sarhad geiriol, ymgeisiwyd i anafu 18%, ac anafwyd 11%. (2) Bygythiwyd mwy o feddygon canol-drefol na meddygon maes-drefol, ond yr un oedd nifer y meddygon a ddioddefodd sarhad geiriol ac anafiad. Yn yr astudiaeth yma gwneir cais i gloriannu'r ffyrnigrwydd mae aelodau'r Gymdeithas Feddygol wedi dod ar ei draws, a'r defnydd a wnaed o'r Heddlu i sicrhau diogelwch y claf a'r meddyg. Hefyd ceisiwyd cael barn y meddygon ar ble y dylid trin cleifion ffyrnig. Method Anfonwyd holiadur i bob aelod o'r Gymdeithas Feddygol ym Mehefin, 1989 (n 300). Gofynnwyd a oedd meddyg wedi cael ei fygwth gan glaf ac os oedd aelod o'r Heddlu wedi cael ei alw i ddod gyda'r meddyg i weld y claf am ei fod yn fygythiol. Ymhellach, gofynnwyd a ddylai Cymru gael 'uned ddiogel' i drin cleifion gormesol neu ffymig, naill ai fel rhan o Wasanaeth Seiciatregol Fforensig Preifat, neu fel rhan o rwydwaith o unedau cymdeithasol ac addysgol yn y gymuned, neu fel uned arbennig yn yr Ysbytai Ardal. Canlyniadau O'r 300 o holiaduron a anfonwyd allan cafwyd 30 o atebion yn dangos cyfartaledd o 10%. Bygythiwyd 15 (50%), anafwyd 1 (3.33%), a galwodd 7 (23%) am gymorth yr heddlu wrth ymweld â chlaf bygythiol. O'r meddygon a fygythiwyd yr oedd 13 (86%) yn wrywod a 2 (14%) yn fenywod. Dywedodd sawl meddyg yn wirfoddol fod nifer o'r digwyddiadau ffymig yn gysylltiedig ag alcohol a chyffuriau. Nodwyd hefyd fod ymosodiadau gan* gleifion yn dioddef o anhwylder seiciatregol wedi digwydd. Atebodd 27 (90.1%) y dylai Cymru gael uned ddiogel i drin cleifion gormesol neu ffyrnig. Nid oedd unrhyw un yn cefnogi sefydlu gwasanaeth Seiciatregol Fforensig Preifat, ond cefnogodd 10 (33.3%) uned ddiogel fel rhan o rwydwaith o unedau cymdeithasol ac addysgol yn y gymuned, roedd 10