Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ADOLYGIAD Lloffa'r Papurau Bellach, cyhoeddir degau o Bapurau Bro ledled Cymru, a thros Glawdd Offa. Yn sicr, dyma un o ffenomenau mwyaf diddorol ac arwyddocaol y Gymru Gymraeg yn ystod y pymtheg mlynedd diwethaf. Gan fod iechyd yn bwnc sydd yn ennyn diddordeb eang ymysg y cyhoedd, nid yw'n syn fod Colofn y Meddyg yn ymddangos yn lled gyson yn y cyfryw bapurau, naill ai yn fisol neu fel bo'r galw, pan fo rhyw bwnc yn tanio dychymyg y golygydd neu ei ddarllenwyr. O reidrwydd, felly, erthyglau sydd yn ddiddorol am gyfnod byw yw mwyafrify rhain, er nad yw hynny ohono'i hun yn eu gwneud yn llai pwysig. Y mae'r fath erthyglau yn gyfrwng i addysgu'r cyhoedd ar ddau gyfrif, sef parthed eu hiechyd ac bod modd ymdrin â phynciau meddygol/wyddonol trwy gyfrwng y Gymraeg. Ymddengys fod Papur Bro ardal Ogwr, sef yr Hogwr, wedi llwyddo i gael colofn weddol gyson dros y blynyddoedd, ac mai aelod o'r Gymdeithas hon oedd awdur y golofn. Y mae Dr J. Hirwaun Thomas yn adnabyddus i aelodau'r Gymdeithas fel darlithydd ar bynciau yn ymwneud a meddygaeth yr henoed. Casglwyd nifer o'r erthyglau ymddangosodd yn yr Hogwr, ac yn y Faner a Barn, yn un gyfrol hwylus gan yr awdur, a chyhoeddwyd hi gan Wasg Tŷ John Penry, Abertawe. Nid pynciau yn ymwneud a'r henoed sydd yma'n unig: y mae amrywiaeth eang o bynciau, yn amrywio o "Boen" i "Y Tlawd a'r Wyrcws", o'r "Cataract" i "Iachau Trwy Ffydd ar y Teledu". Digon o amrywiaeth. Yn ogystal, ceir cyfres o benillion am Bractis Meddygaeth Deulu arbennig, gyda dau bartner, Dr Sydyn a Dr Slo'! Os yw erthygl i ddiddanu ac addysgu, yna rhaid iddi fod yn ddarllenadwy i'r gynulleidfa yr anelwyd hi atynt. Os mai at yr academydd yr anelir yr erthygl, yna rhaid i'r iaith a'r gystrawen dechnegol fod yn wahanol i'r hyn welir mewn erthygl anelir at leygwyr yn y maes. Un dull o ddod dros yr anhawster geirfa, mewn erthygl Gymraeg, yw defnyddio'r term Cymraeg ac yna cynnwys cyfieithiad ohono i'r Saesneg. Ar y cyfan, y mae hyn yn llwyddo, ond nid bob tro. Rhaid i'r term Saesneg fod yn adnabyddus i'r darllenydd hefyd. Hwn yw'r dull ddefnyddir amlaf yn y gyfrol hon. Anodd barnu os yw'n ddull effeithiol a'i peidio gan nas cofnodir unrhyw ymateb gan ddarllenwyr. Efallai hefyd y gor-ddefnyddir y dull yma, gan y gwelir cyfieithu termau cyfarwydd iawn, megis "pla", "paill", "cronig" ac yn y blaen. Os tybiai'r awdur fod cynifer a'r termau hyn yn ddieithr i'r darllenwyr, onid gwell fyddai bod wedi cynnwys rhestr ohonynt ar ddiwedd y gyfrol, gyda'r cyfieithiad. Fel yr awgrymais uchod, y mae'r pynciau yn y gyfrol hon yn eang eu hystod ac yn ddiddorol iawn. Dylent apelio at y darllenydd cyffredin, er fod rhai o'r erthyglau braidd yn rhy fanwl yn eu hymdrin a'r gwahanol bynciau. Fodd