Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GOLYGYDDOL Nid oes unrhyw gyflwr wedi derbyn mwy o sylw gan feddygon na^ísfiSffiS^r myocardiwm. Prin fod angen atgoffa neb fod 700,000 o wŷr a merched Prydain yn dioddef o thrombosis coronaidd bob blwyddyn, ac mae 20% o'r ymosodiadau'n angheuol. Yn ychwanegol at hynny mae costau trin afiechyd coronaidd y galon yn aruthrol, £ 400 miliwn y flwyddyn, ac amcangyfrifir fod y costau anuniongyrchol, fel colli cynhyrchiant mewn diwydiant ac ati, yn £ 1,400 miliwn. Ymddengys nad oedd angina yn broblem fawr i'n cyndeidiau. Yn 1768 cafwyd y disgrifiad clinigol cyntaf gan William Heberden o ugain o achosion, er fod Iarll Clarendon yn ei atgofion wedi rhoi portread eglur o'r afiechyd fel yr effeithiodd ar ei dad yn 1632. Cyhoeddwyd dau bapur, un yn 1910 gan Vasillii Obrazov a'r llall yn 1912 gan James Bryan Herrick, yn cofnodi y darlun clinigol a'r newidiadau post mortem a welir mewn thrombosis coronaidd. Erbyn heddiw mae'r ffactorau niferus sydd yn arwain at atheroma coronaidd yn hysbys i leygwr a meddyg yn ddiwahân. Y broblem yw perswadio'r cyhoedd i newid eu dull o fyw, ac y mae ymdrechion Curiad Calon Cymru ymhlith sefydliadau eraill i'w canmol yn y maes hwn. Ar y cyfan mae yna gytundeb ymysg meddygon yn gyffredinol am y mesurau y dylid eu cymryd i arbed yr afiechyd. Nid yw'r un cytundeb yn bod lle mae y driniaeth ddewisol yn y cwestiwn. Yn un pegwn eithaf mae yna garfan o lawfeddygon calon sydd yn credu mai impiad osgoi rhydweli coronaidd yw'r dewis gorau, yn y pegwn eithaf arall ceir carfan o gardiolegwyr sydd yn credu mai triniaeth â chyffuriau sydd orau, ac yn y canol mae'r mwyafrif gweddill heb fod yn siwr beth yw'r dewis gorau. A oes prawf pendant fod impiad osgoi yn rhoi gwellhâd parhaol? Mae'r papurau sydd wedi eu cyhoeddi yn amrywio yn eu canlyniadau. Yn ei drafodaeth ar y sefyllfa ym Mhrydain dywed Wiseheart fod 85 90% wedi cael llwyr esmwythâd, neu esmwythâd sylweddol, a bod symptomau'n dychwelyd ar raddfa 2-3% yn flynyddol hyd y seithfed flwyddyn pan ddigwydd cynnydd sylweddol.(1) Yn 1987 cyhoeddodd Graboys, Hedley a Lown bapur yn Yr Unol Daleithiau yn dangos fod y rhydweliau yn yr impiadau wedi eu rhwystro mewn 50% o'r cleifion o fewn pum mlynedd, a'r nifer yn cynyddu i 80% o fewn saith mlynedd.(2) Er pan ddyfeisiodd Dr Andreas Gruentzig dechneg angioplasti balwn yn 1977 mae cytundeb cyffredinol fod y rhydwelïau coronaidd wedi'r driniaeth yn culhau mewn 30% o'r cleifion o fewn 3 i 6 mi§.(3) Mae datblygiadau mewn triniaeth â chyffuriau yn dangos mesur o lwyddiant. Erbyn hyn cyhoeddwyd nifer o astudiaethau yn dangos fod therapi thrombolytig yn lleihau cyfradd marwolaethau yn y cyfnod cynnar o thrombosis coronaidd. Defnyddiwyd nifer o gyffuriau i ostwng lefel colesterol yn y gwaed ers rhai blynyddoedd, ac fe ddengys 24 o astudiaethau fod lleihad