Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYNORTHWYO'R GALARUS Dr Rosina Davies Proses normal, naturiol yw galar sy'n digwydd ar ôl colli rhywun agos. Fe ddaw'r rhan fwyaf drwy'r broses yn llwyddiannus gan bwyso ar eu hadnoddau naturiol, ac yn wir y mae yn bosibl tyfu yn emosiynol a seicolegol ar ôl y fath brofiad. Paham felly siarad am gynorthwyo'r galarus? Y mae amryw resymau: Y mae yn broses boenus. Y mae tystiolaeth am effeithiau andwyol galar yn ystod y flwyddyn gyntaf wedi'r brofedigaeth, megis afiechyd corfforol, mwy o ymweliadau â'r meddyg a hyd yn oed mwy o farwolaeth partneriaid priodasol. Y mae hefyd dystiolaeth bod cynnig cymorth, yn enwedig i'r rhai a ystyrir o fod mewn perygl o ddatblygu problemau, yn effeithiol. Gwelir gwellhâd yng nghyflwr eu hiechyd yn gyffredinol, ac mewn ymchwil a wnaethpwyd yn hospis St Christopher dangoswyd gostyngiad yn nifer yr hunanladdiadau.2 At hynny, gwelodd Dora Black fod plant a gollodd riant yn ymdopi'n well ar ôl y golled wrth gael cymorth pwrpasol.3 Nid gwaith y cynorthwywr yw dileu'r galar na cheisio dod o hyd i atebion rhwydd; nid yw ystradebau yn fawr o help ychwaith. Rhaid ceisio rhoi cymorth i'r galarus i weithio'u ffordd drwy'r broses, faint bynnag mor boenus ydyw a dod i delerau â'u colled ac addasu i fyw heb y person sydd wedi marw. Wrth reddf y mae yn wrthun gennym roi heibio eiddo, pobl, disgwyliadau, neu ffordd o fyw; nid ydym yn hoffi newid. Dyma sydd yn gwneud galar mor anodd. Yn yr ysgrif hon disgrifir yn fyr: 1. Y broses o alaru. 2. Ffactorau a all effeithio ar y galaru. 3. Tasgiau galar a sut i hyrwyddo galar normal. 4. Rhai arwyddion annormal. 1. Y Broses o Alaru. Disgrifiodd Colin Murray Parkes4 wahanol gyfnodau o alaru: Yn gyntaf, ceir cyfnod o sioc ac anghrediniaeth. Pery hwn fel rheol am rai oriau neu ddyddiau yn dibynnu ar amgylchiadau'r farwolaeth. Gall barhau yn hwy gyda marwolaeth annisgwyl neu draumatic iawn. Yn yr ail gyfnod, ceir pyliau o wylo sydd fel rheol yn cyrraedd eu huchafpwynt tua phedwar i ddeng niwrnod ar ôl y farwolaeth, ac yna yn lleihau. Y mae'r person yn dyheu am ddychweliad yr ymadawedig ac yn chwilio am ei wyneb mewn torf, yn gwrando yn reddfol am swn ei droed neu hyd yn oed yn paratoi lle wrth y bwrdd. Y mae rhithdeimladau yn gyffredin gyda'r galarus