Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SORIASIS A DERMATITIS A TOPIG: CYDREDIAD A PHATHOFFISIOLEG Dr W. E. Beer Bûm yn gweithio yng Ngogledd Cymru ers dros chwarter canrif. Cyn i mi ymddeol, hoffwn rannu gyda chwi ganlyniadau gwaith yr wyf wedi bod yn ei wneud ar ddau afiechyd cyffredin sydd wedi cymryd fy sylw, sef soriasis (S) a dermatitis atopig (DA). Sylwais wrth holi cleifion ynglyn â'u hanesion meddygol, fod yna'n ami hanes o ddermatitis atopig mewn teulu dioddefwyr o soriasis, a bod hanes o soriasis mewn teulu dioddefwyr o ddermatitis atopig. Yn ystod y ddau ddegawd diwethaf gwnaed llawer o waith yn y labordy ar y ddau afiechyd yma a gwnaed cymariaethau'n aml. Gellir crynhoi y darganfydd- iadau o dan dri pennawd: 1. Camweithrediad o'r systemau cellol ail negesydd. A. Diffygion metabolaeth nwcleotidau cylchol (cyclic nucleotise metabolism). Mae hyn yn cynnwys (a) isadweithiad adrenergaidd Beta (Beta adrenergic hyporesponsiveness) (b) cynnydd mewn ffosffodiesteras (PDE) cAMP mewn celloedd mononwcleaidd a (c) annormaledd gweithgarwch cinesau prodin. B. Diffygion yn y llwybr Inositol, sydd fel cAMP yn defnyddio Ca++ mewngellog ac allgellog. Mae calmodwlin yn chwarae ei ran yn y broses hon. Ffigwr 1. Ar yr ochr chwith dangosir y llwybr nwcleotid cylchol gyda'i dderbynnydd symbylol ac ataliol yn effeithio ar adenylit seiclas sydd yn ei dro yn cynhyrchu ymateb cellol fel canlyniad i ffosfforileiddio drwy ginesau prodin. Uwchben ceir y llwybr Inositol gyda'i dderbynnydd, ei prodin clymu a ffosffolipas C sy'n trawsnewid Inositol Ffosffatid i Inositol. Mae hwn yn cyfuno a C++ mewngellog ac allgellog ac yn cynhyrchu effeithiau cellol drwy ginesau prodin (Pk).