Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DIABETES: EI EFFAITH AR Y LLYGAID, A'R DRINIAETH Mr Dylan Jones Y Broblem Mae diabetes yn afiechyd cyffredin; ym Mhrydain Fawr mae'n digwydd mewn rhwng 1-2% o'r boblogaeth, ac mae bron eu hanner heb eu darganfod. Retinopathi yw'r cyflwr sydd amlaf yn arwain at gofrestriad dallineb mewn oedolion rhwng 25 a 74 oed. Mae retinopathi yn broblem nodweddiadol o'r boblogaeth ddiabetig, ac mae'n berthnasol i barhad y clefyd yn fwy nag unrhyw ffactor arall. Bydd 98% o gleifion diabetig dan 30 oed sy'n ddibynnol ar inswlin (teip 1) yn debygol o ddangos tystiolaeth o retinopathi ar ôl ugain mlynedd o ddechrau'r afiechyd. Ar y llaw arall, bydd 20% o'r cleifion diabetig sydd ddim yn ddibynnol ar inswlin (teip 2) yn dangos peth arwydd o retinopathi ar ôl eu darganfod, ac mae'r nifer yn cynyddu i 50% ymhen ugain mlynedd. Er fod y cymhlethdod ddwy neu dair gwaith mwy tebygol o ddigwydd yng nghleifion teip 1 nag yng nghleifion teip 2, mae dioddefwyr yn yr ail ddosbarth yn llawer mwy niferus, ac yn cyfri am bedair gwaith mwy o achosion sydd yn dod i sylw'r ffisigwyr. Oherwydd hynny, cleifion teip 2 yw'r mwyafrif sydd angen gofal offthalmolegol. Retinopathi Amlhaol yw'r prif broblem yng nghleifion teip 1, a Macwlopathi yw'r anhawster mwyaf i gleifion teip 2. Pathogenesis Achosir y retinopathi yn bennaf gan microangiopathi yn effeithio ar gapilarîau, rhydweliau, a gwythiennau y retina. Mae i hynny ddau ganlyniad, sef colli a rhwystriad. Colli Y mae fframwaith capilari iach yn cynnwys un gell periseit ac un gell endothelial. Mae'r periseit yn rhwymo ei hun o amgylch y capilari, ac mae'n chwarae rhan hanfodol mewn cadw cywirdeb fasgwlar. Gellir ei disgrifio fel y sment yn wal y llestr. Nodwedd sylfaenol mewn retinopathi diabetig yw distrywiad celloedd periseit, gyda'r canlyniad fod wal y capilari yn gwanychu ac yn chwyddo allan a chynhyrfu'r ffin rhwng y gwaed a'r retina. Yr ymddangosiad macrosgopig yw microaniwrysm. Cymhlethir microaniwrysm gan geulad, colli neu rwygiad, ac yn dilyn gwelir oedema neu waedlif. Rhwystriad Mae tri o ffactorau i'w canfod yn y cyflwr yma; a) pilen y gapilari yn tewhau (arwydd arall o retinopathi diabetig ac fe all ragflaenu'r ffactorau eraill), b) niwed i gelloedd endothelial yn arwain at amlder, c) cynnydd glynol y platennau. Mae'r ffactorau hyn yn cyfrannu at ffenomenon rhwystriad, ac yn y pen draw yn achosi ischemia yn y retina. Canlyniad yw'r ischemia i anddarlifiad