Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

MARWOLAETH YN Y CRUD Dr Hywel Williams O'r holl ergydion brwnt all ddigwydd i rieni, gorfod wynebu marwolaeth sydyn, dirybudd, baban holliach yn y crud yw'r ergyd fryntaf oll. Gedy'r ergyd graith am oes. Gyda'r gostyngiad cyson yn nifer marwolaethau o bob achos ymhlith babanod a phlant, tynnwyd mwy a mwy o sylw at y marwolaethau annisgwyl, diesboniad hyn, ac o'r herwydd canolbwyntiwyd mwy a mwy o ymchwil ac adnoddau i'r cyfeiriad hwn i geisio darganfod rhyw fodd i'w hatal. Gellir dosbarthu babanod a phlant ifainc a fu farw'n ddisymwth i dri categori. Y rhai lle mae'r eglurhad yn amlwg, eraill lle mae'r eglurhad yn rhannol amlwg, a'r gweddill lle mae'r farwolaeth yn hollol anesboniadwy. I'r boblogaeth yn gyffredinol mae'r term 'marwolaeth yn y crud' yn cwmpasu'r tri dosbarth. Rhaid bod yn fwy manwl na hynny fodd bynnag, er mwyn tanlinellu y gwahaniaeth pwysig rhwng y marwolaethau esboniadwy a'r rhai anesboniadwy. Dim ond marwolaethau yn yr ail a'r trydydd o'r dosbarthiadau uchod sy'n cael eu diffinio fel rhai 'Sindrom Marwolaeth Ddisymwth Babanod'. Cynigiwyd y diffiniad swyddogol canlynol o'r rhai anesboniadwy hyn gan y patholegydd, Dr Beckwith yn 1969, 'Marwolaeth ddisymwth unrhyw faban neu blentyn ifanc sydd, wedi olrhain ei hanes, yn annisgwyliadwy, a lle mae archwiliad post mortem trwyadl yn methu arddangos rheswm digonol am y farwolaeth'. Yn 1971 derbyniwyd y diffiniad hwn fel 'Achos Marwolaeth Cofrestradwy' gan y Cofrestrydd Cyffredinol. Nid yw'r broblem yn un sy'n unigryw i'r byd modern. Bydd gan y rhan fwyaf ohonom gof am luniau yn y Beibl Teuluaidd o Solomon yn eistedd ar ei orsedd, a milwr yn sefyll o'i flaen yn dal baban gerfydd ei goes, a'i gleddyf yn y llaw arall, ar fin ei hollti yn ddau! A'r ddwy fam yn ymbil wrth ei draed. Gall bob un ohonom gofio dyfarniad Solomon, ond faint tybed all gofio'r rheswm am y ddadl rhwng y ddwy wraig? Y rheswm oedd i faban un o'r ddwy farw, ac iddi ddwyn baban y llall i gymryd ei Ie; 'A mab y wraig hon a fu farw liw nos: oherwydd hi a orweddodd arno ef. (1 Brenhinoedd 3, 19). Yn wir, tan tua canol y ddeunawfed ganrif 'roedd yr eglurhad hwn, h.y. llethu baban trwy orwedd arno, yn un hollol dderbyniol. Ond yn 1855 cyhoeddwyd papur yn Y Lancet yn amau'r gred gyffredinol ac yn galw am archwiliadau post mortem unffurf er mwyn cael mwy o eglurhad ar y sefyllfa. (1) Erbyn heddiw mae cyfradd marwoldeb plant wedi gostwng islaw 1% ac mae tua chwarter o rhain yn cael eu cofrestru fel S.M.D.B.