Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

O HANES MEDDYGAETH GELOD Dr Huw Edwards Mae'r arferiad o ollwng gwaed y claf yn un hynafol iawn. Roedd Ipocras yn derbyn mai gwaedu'r claf oedd y driniaeth gydnabyddedig ar gyfer rhai afiechydon penodol. (1) Nid oedd Erasistratus o Alecsandra yn cytuno ac roedd llawer o'i ddilynwyr yn gwrthod gwaedu o gwbl. (2) Fodd bynnag, erbyn cyfnod Galen (c 129-199 OC) ystyrid gwaedu yn driniaeth sylfaenol, ac, yn wir, hanfodol, ar gyfer llu o wahanol anhwylderau. (3) Byddai'n tynnu litr a hanner o waed oddi ar y claf yn ddibetrus. O gofio'r parch aruthrol a ddangoswyd at Galen, nid yw'n syndod fod cynifer o'i ddilynwyr wedi dangos y fath frwdfrydedd wrth ollwng gwaed eu cleifion ar bob cyfle posibl. Cododd ambell lais beirniadol ac roedd amrywiaeth barn ynglyn â sut a pha bryd y dylid gwaedu'r claf (roedd rheolau cymleth ynglyn â hyn), pa mor ami y dylid gwneud hynny, faint o waed y dylid ei ollwng ag hefyd a ddylid carthu'r claf yn ogystal â'i waedu. Serch hynny, derbynid fod gwaedu yn driniaeth effeithiol tan ganol y ganrif ddiwethaf. Mae athrawiaeth yr hiwmorau a ddisgrifid gan Ipocras yn rhoi seiliau rhesymol i'r arfer o waedu. (2) Credid fod pedwar hiwmor: gwaed, fflem, bustl du a bustl melyn rhyngddynt yn rheoli holl weithgareddau'r corff. Erbyn amser Galen (3) y gred gyffredinol oedd mai gwaed oedd y prif hiwmor a'i fod yn cynnwys yr hiwmorau eraill i gyd. Gan hynny, wrth ollwng gwaed gellid rheoli, neu, 0 leiaf ddylanwadu ar bob math o afiechydon a achosid gan anghydbwysedd yn yr hiwmorau. Credid iddo fod yn arbennig o effeithiol mewn anhwylderau a achoswyd gan 'plethora' sef croniant o'r hiwmor hanfodol o ganlyniad i or-fwyta, cymryd rhy ychydig o ymarfer corff neu fyw'n afradlon. Ystyrid bod carthu hefyd yn effeithiol a chyfuniad o ollwng gwaed a charthu oedd y feddyginiaeth ddiffael ar gyfer 'plethora'. Yn ôl y ddamcaniaeth hon crynodiad o'r hiwmorau a oedd yn gyfrifol am lid mewn unrhyw ran o'r corff ac, hefyd, am dwymynau o bob math. Gan hynny, byddai gollwng gwaed yn sicr o leddfu'r hiwmor llidiog. Y dechneg gyffredin o ollwng gwaed oedd clymu rhwymyn o amgylch braich y claf er mwyn i'r gwythiennau chwyddo ac yna, gari ddefnyddio cyllell finiog, agorid gwythïen. Cesglid y gwaed mewn basn neu gwpan. Ar gyfer y dechneg boblogaidd arall defnyddid cwpan siap cloch, a wnaed o bres fel arfer. (4) Llosgid darn o lint a'i osod ymhen ucha'r cwpan ac yna gosodid ef ar y croen a'i wasgu nes iddo adlynu. Byddai'r gwaed (neu, weithiau, grawn) yn cael ei sugno trwy endoriad yn y croen o dan y cwpan. Hyd yn oed mor gynnar a'r cyfnod Groegaidd roedd y cwpan gwaedu yn rhyw fath o symbol o'r proffesiwn