Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

HYBU IECHYD PLANT Dr Ian Frederick Greatorex Dewisais y testun Hybu Iechyd Plant am nifer o resymau. Ein plant yw ein dyfodol dylid diogelu eu hiechyd yn ogystal â sicrhau bod gwasanaethau addas ar gael i drin afiechyd mewn plant. Ni ddylid anghofio'r gwasanaethau ataliol ychwaith; y mae plant yn fwy hyfriw nag oedolion ac y mae angen ein nodded arnynt. Ac i feddyg sydd yn arbenigo yn iechyd y cyhoedd, y mae plant o ddiddordeb arbennig gan mai hwy yw'r rhai cyntaf i ddangos effeithiau salwch mewn cymdeithas yn gyffredinol. Gwelir hyn yn y newyn sydd yn bodoli yn Affrica ar hyn o bryd. Wrth gwrs, nid yw plant ein gwlad ni mor anffodus a phlant gwledydd tlawd, ac yn sicr nid ydynt mor afiach. Er hynny, nid yw pob plentyn ym Mhrydain yn cael cystal cyfle â'i gilydd. Y mae anghyfartaledd yn iechyd ein plant yn arwydd nad oes rheswm ymfalchïo wrth edrych ymlaen at y mileniwm nesaf. Bwriad f'ysgrif yw ystyried cyfrifoldeb gwahanol feddygon i hybu iechyd plant. Hefyd, ystyriaf gyfrifoldebau newydd Awdurdodau Iechyd i bwrcasu gwasanaethau ar gyfer eu poblogaeth, gan ganolbwyntio ar anghenion plant. Y mae meddygon sydd yn gofalu am blant yn cynnwys y canlynol: obstetregydd, meddyg teulu, meddyg cymunedol, llawfeddyg yr heddlu, ymgynghorydd ysbyty, a meddyg iechyd y cyhoedd. Byddaf yn ystyried rhai o'u cyfrifoldebau at blant gan ganolbwyntio ar hybu iechyd. Yr Obstetregydd Gofalu am y wraig feichiog yw prif gyfrifoldeb yr obstetregydd. Nid wyf am ystyried ei swyddogaeth yn fanwl iawn yma. Wrth gwrs, mae iechyd plentyn yn dechrau yn y groth ac un cyfeirydd pwysig yw pwysau y baban newydd-anedig. Dengys ystadegau cenedlaethol yn glir fod cyfradd marwolaethau babanod newydd-anedig sydd o dan 2.5 kg lawer yn uwch na babanod eraill — y maent yn fwy afiach. Dengys y map cyntaf wahaniaeth yng nghyfartaledd y babanod newydd- anedig o dan 2.5 kg mewn gwahanol rannau o ddinas Salford, lle'r wyf yn gweithio. (Ffigwr 1) Yng nghanol y ddinas, y mae 11% o fabanod newydd-anedig o dan bwysau, o gymharu â chyfartaledd o 7% dros y ddinas gyfan. Nid yw gwahaniaethau fel hyn yn dderbyniol ac maent yn dangos bod atal gwaeledd yn bosibl. Y Meddyg Teulu Brechu pob plentyn i sicrhau heintryddid, os nad oes gwrth reswm. Bwriad y cynllun brechu yw sicrhau bod y boblogaeth yn gyffredinol yn heintrydd i blâu megis parlys y plant, y frech goch, clwyf pennau, y frech