Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GWAITH ATALIOL GYDA'R HENOED Dr Donald Williams Dyma bwnc diddorol ac amserol iawn, am ddau reswm, y cynnydd mawr yn nifer yr henoed yn ein cymdeithas a phwyslais y Llywodraeth ar hybu iechyd yr unigolyn ac iechyd y gymuned yn gyffredinol. Gellir disgrifio yn gyffredinol iawn ffactorau y tybir eu bod o help i fywyd iach mewn henaint ond mae'r ffeithiau sicr yn brin. Cyfyngir fy sylwadau i'r tri math o waith ataliol meddygol; sylfaenol, eilradd, a thrydyddol gan roddi enghreifftiau dan y tri pennawd. Gwaith ataliol sylfaenol yw'r ymdrech i atal afiechyd yn gyfan gwbl, er enghraifft brechu plant yn erbyn y frech goch, difftheria a gên-glo. Mewn gwaith ataliol eilradd gosodir pwyslais ar drin afiechyd mor effeithiol fel bod y claf yn cael adferiad cant y cant. Lleihau anabledd a chyfyngu canlyniadau afiechyd yn y tymor hir yw gwaith ataliol meddygol trydyddol. Defnyddir y tri categori hyn i amlinellu gwaith ataliol seiciatregol gyda'r henoed gan roddi enghreifftiau. 1. Gwaith Ataliol Sylfaenol Mewn seiciatreg un enghraifft yn unig sydd o atal afiechyd sylfaenol. Ers dros ugain mlynedd bellach mae digon o ffeithiau i ddangos fod cymryd lithiwm yn gyson yn lleihau ailddigwyddiad mewn dau gyflwr; y pruddglwyf lloerig ac iselder ysbryd cylchol. Gan fod effeithiolrwydd lithiwm mor bendant fe ddylai pob meddyg wybod am bwysigrwydd ei werth. Mae'r driniaeth yn syml. I ddechrau rhoddir 400 mg y dydd i'r claf ac wedyn newidir y ddogn yn raddol dros gyfnod o ddiwrnodau nes bod lefel lithiwm yn y gwaed rhwng 0.4 ac 1.00 m mol/litr. Cyn dechrau'r driniaeth dylid gwneud yn siwr fod calon ac arennau'r claf yn gweithio'n foddhaol. Os nad ydynt, fe all lefel y lithiwm yn y gwaed gynyddu gan greu problemau. Ar ôl i'r lefel fod yn sefydlog am beth amser mae angen gwneud profion gwaed bob tri mis i wneud yn siwr fod y sefyllfa'n parhau'n foddhaol. Dyma enghraifft o ddefnyddio lithiwm: Gwr gweddw 66 oed yw B.R. Dros y blynyddoedd fe gafodd ysbeidiau byr o iselder ysbryd. Yng nghanol y saithdegau teimlodd straen yn ei waith fel rheolwr banc a methodd a dygymod a'r holl newidiadau oedd yn cymryd lle. Ar ddiwedd 1976 dechreuodd fod yn orffwyllog. Gwaethygodd y sefyllfa a bu raid ei gymryd i ysbyty seiciatregol yn Ebrill 1977 gyda'r diagnosis o'r pruddglwyf Hoerig. Gwellodd yn fuan ac fe'i cychwynwyd ar driniaeth tymor hir gyda lithiwm. Fe ddaeth i'r clinig yn ddidrafferth ac nid oedd problem gyda lefel hthiwm yn ei waed. Yn 1980 cafodd ei wraig ei chymryd yn wael gyda chanser a