Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

OSTEOPOROSIS Mr Mel W. Jones Cyflwyniad Wrth feddwl am feddygaeth ataliol yn yr henoed, rhaid cofio bod nifer fawr yn dioddef o glefyd metabolaidd yr esgyrn, sef osteoporosis. Mae hyn yn achosi problemau mawr byd eang, yn enwedig yn y byd gorllewinol. Gan fod nifer yr henoed yn cynyddu, mae hyn am greu problemau mawr yn y dyfodol. Epidemig cudd ydyw osteoporosis. Mae'n effeithio ar esgyrn am flynyddoedd heb symptomau nes i'r asgwrn deneuo. Mae'r asgwrn wedi calchu'n iawn ac mae hyn yn wahanol i osteomalacia lle mae diffyg calchu yn yr asgwrn. Nid yw'r symptomau yn ymddangos nes i'r asgwrn wanhau digon a thorri. Y tri man arferol ydyw torasgwrn Colles, y fertebra a gwddf y ffemwr. Bydd hanner merched dros 80 oed wedi dioddef un o'r rhain. Toresgyrn Bydd 15% o ferched Ewropeaidd yn dioddef torasgwrn Colles yn ystod eu bywyd. Nid yw yn eu lladd wrth gwrs ond mae'n boenus, yn aml angen triniaeth o dan ryw fath o anesthetig ac yna nifer o wythnosau mewn plastr Paris. Hefyd, mae'n gallu gadael camffurfiad a symptomau sy'n parhau am gryn amser. Bydd dros 20% o ferched dros 70 oed wedi dioddef torasgwrn y cefn. Mae hyn yn gallu digwydd heb unrhyw anaf. Yn ogystal â bod yn boenus mae taldra'n cael ei golli ac mae crwb (kyphosis) yn gallu datblygu. Y broblem fawr gyda osteoporosis yw torasgwrn gwddf y ffemwr. Mae dau fath. Mae un yn digwydd drwy'r gwddf anatomegol. Yn aml, mae hyn yn amharu ar gylchrediad y gwaed i ben y ffemwr ac mae hwnnw'n gallu marw neu mae'r torasgwrn yn methu ag uno. Mae'r driniaeth yn cynnwys torri'r pen allan a rhoi cymalffurfiad rhannol yn ei le. Nid oes dim yn cael ei wneud i'r acetabiwlwm oherwydd nid yw'r rheini sydd yn torri gwddf y ffemwr yn cael arthritis fel rheol. Mae'r ail fath yn digwydd rhwng y ddau drochanter. Mae digon o waed yn mynd i'r torasgwrn ac mi fuasai'n uno wrth adael y claf yn ei wely am ryw dri mis. Ond wrth gwrs, fedr y cleifion hyn ddim dioddef bod yn y gwely mor hir heb gael niwmonia neu ddolur gwasgedd. Mae'r driniaeth yn cynnwys rhoi sgriw a phlât arbennig i ddal y torasgwrn ynghyd. Mae'r cleifion gyda thorasgwrn gwddf y ffemwr yn llenwi 20% o wlâu orthpedeg ac wedi costio tua £ 55 miliwn i'w trin yn 1990 ym Mhrydain. Hefyd, mae 20% o'r cleifion yn marw o fewn blwyddyn. Dosbarthiad Mae tri math o osteoporosis. Mae dau deip cynradd. Mae'r cyntaf yn effeithio ar ferched ar ôl diwedd y mislif, rhwng 55-65 mlwydd oed, yn enwedig