Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

HYBU IECHYD MEWN GOFAL CYNTAF Dr Ruth Parry Mae yna sawl ffordd wahanol y medrwn weithio ym maes hybu iechyd drwy ysgolion a phobl ifainc, yn y man gwaith a thrwy ddefnyddio'r cyfryngau. Fodd bynnag, credaf fod potensial mawr iawn i hybu iechyd yng nghyd-destun Gofal Cynradd. Pam Gofal Cynradd? Mae Gofal Cynradd yn rhoi mynediad i ni i'r boblogaeth gyfan bron. Mae miliwn o bobl yn ymweld â'u Meddyg Teulu bob dydd ac mae 98% wedi eu cofrestru gyda Meddyg Teulu. Hefyd, mae Meddygon Teulu yn gweld y bobl rydym fwyaf angen eu gweld. Mae ysmygwyr yn cysylltu a'u Meddygon Teulu ddwywaith mor aml a phobl nad ydynt yn ysmygu ac mae pobl o ddosbarthiadau cymdeithasol IV a V hefyd yn cysylltu a hwy ddwywaith mor aml ar gyfartaledd. Pwysicach na'r holl ffactorau hyn, fodd bynnag, yw'r ffaith fod gan y cyhoedd hygrydedd yn y Meddyg Teulu cyn belled ag y mae cyngor iechyd mewn cwestiwn. (1) Mae 97% o'r boblogaeth yn dueddol o ymddiried yn eu Meddyg Teulu ynglyn â chyngor iechyd, 85% yn yr Ymwelydd Iechyd a'r Nyrs Practis o'i gymharu a 20% sy'n ymddiried mewn hysbysiad ar y teledu. Yn 1981 datganodd Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu yn eu hadroddiad y gellid atal hanner yr holl strociau a chwarter yr holl farwolaethau o afiechyd y galon drwy gymhwyso y wybodaeth sydd ar gael ar hyn o bryd. Mae'r prif ffactorau perygl ar gyfer afiechyd y galon, strociau, afiechydon yr ysgyfaint a llawer o ganserau wedi eu hen sefydlu. Er mwyn gwybod pa gleifion sy'n wynebu perygl ac i archwilio a ellid darganfod ffordd rad ac effeithiol o sgrinio, gwnaethpwyd astudiaeth gan Dr Godfrey Fowler a Miss Elaine Fullard yn Rhydychen. Gwnaed archwiliad o 100% o nodiadau cleifion gan edrych a fesurwyd neu arholwyd hwy ynglyn â phwysedd gwaed, arferion ysmygu, pwysau neu arwyddion o orbwysedd yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Ddwy flynedd a hanner ar ôl sefydlu system sgrinio achub y cyfle gan wahodd cleifion am brawf iechyd wrth ymweld â'r meddyg (mae 70% o gleifion yn ymweld a'r meddyg bob blwyddyn, 90% bob pum mlynedd), ail-adroddwyd yr archwiliad gyda chanlyniadau arbennig o dda fel y dangosir yn ffigwr 1. Felly pe medrid darganfod y cleifion sy'n wynebu perygl, yna medrid cynnig cyngor arbenigol, er mwyn helpu cleifion i leihau y perygl o afiechyd yn ddiweddarach mewn bywyd.