Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Adolygiad Nid am un Harddwch Iaith. R. Elwyn Hughes; Gwasg Prifysgol Cymru; Pris: £ 14.95. Cyhoeddwyd y gyfrol hon er mwyn 'tynnu sylw at y gwaith arloesol' a wnaed gan y sawl a oedd yn sgrifennu am wyddoniaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Casglwyd ynghyd toreth o ysgrifau a gyhoeddwyd rhwng 1813 a 1898 ar bynciau gwyddonol tra gwahanol i'w gilydd. Dilynir pob ysgrif gan sylwadau atodol gwerthfawr gan y golygydd. Gellid dweud, y mae'n debyg, fod y llyfr yn cynnig rhyw fath o fras olwg ar ddeunydd darllen ein cyndadau mwyaf diwylliedig pan fyddent wedi blino ar gynnyrch Eben Fardd neu wrth iddynt ddisgwyl am nofel nesaf Daniel Owen. Ar wahân i'r dewis eithaf helaeth o wyddorau a drafodir, fe geir yma draethodau o ansawdd gwahanol i'w gilydd. Ar y naill law, ymddengys Michael D. Jones o bawb — fel cyd-awdur ysgrif am gadw gwenyn, 'Magu Breninesau'. Y mae'n rhaid fod y pwnc hwnnw yn llai dieithr o bell ffordd i ddarllenwyr cyffredin y cyfnod na, dyweder, 'Y gorymenydd' (sic), a gyhoeddwyd yn Y Beirniad ym 1866. Y mae'r erthyglau meddygol yn ddiddorol ddigon ond yn dilyn y patrwm sydd mor nodweddiadol o'r cyfnod hwnnw. Rhwng seryddiaeth a daeareg, Darwiniaeth ac ymdriniaeth â gwrtaith buarth, digon yw dweud fod yma ddeunydd darllen a ddylai ennyn diddordeb y rhan fwyaf o feddygon. Er pwysiced cynnwys yr erthyglau a gyhoeddir yma, y rhan ddisgleiriaf ohono o bell ffordd yw rhagymadrodd y golygydd. O fewn tua 14,000 neu fwy o eiriau, y mae'n gosod deunydd gweddill y llyfr yn ei gyd-destun mewn ffordd fywiog, ddiddorol a meistrolgar. Dengys ehangder ei wybodaeth a thrylwyredd ei waith ymchwil ei fod wedi ei drwytho ei hun yn y maes dros gyfnod hir. Y mae yr un mor gartrefol yn dyfynnu o waith Emrys ap Iwan a Peter Medawar. Yn sicr, ni fyddai'r llyfr wedi bod yr un fath heb y cyflwyniad hwn. A phrin odiaeth yw'r gwyddonwyr a fyddai wedi gallu cyflawni'r fath gamp fel y gwnaeth y Dr Elwyn Hughes. Dywedwyd am yr enwog Sydney Smith na fyddai yn darllen llyfrau cyn eu hadolygu am fod hynny yn ennyn ynddo syniadau rhagfarnllyd am eu cynnwys. Byddai wedi bod ar ei golled wrth wneud hynny â'r llyfr godidog a deniadol hwn. Dr Tom Davies.