Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ADOLYGIAD Ystadegaeth Elfennol gan Ll. G. Chambers, Gwasg Prifysgol Cymru. Pris: £ 8.95. 6 Stryd Gwennyth, Cathays, Caerdydd, CF2 4YD. Newydd ei gyhoeddi mae'r llyfr clawr papur hwn gan Dr Gwyn Chambers, Adran Mathemateg, Coleg Prifysgol Gogledd Cymru. Ynddo mae'n ceisio rhoi cymorth i'r rhai sydd a diddordeb mewn addysg cymdeithaseg ac economeg. Mae o help i rai sydd a chefndir mathemategol neu wyddonol. Mae'r gallu i ddefnyddio ystadegaeth yn bwysig mewn sawl maes. Yn aml mae angen cymorth ystadegaeth i ddadansoddi gwybodaeth ddaw o ddata a gesglir mewn arbrofion ac arolygon, a hefyd i ddadansoddi yr hyn a ddywed glweidyddion ac eraill ar y cyfryngau ac ati. Fel y dywed yr awdur yn ei lyfr, nid oes angen bod a gwybodaeth ddofn o fathemateg, dim ond lefel sylfaenol o ddealltwriaeth o rifyddeg a bod a'r gallu i darllen tablau. Mae yna sawl fformwla gymleth yr olwg yn y llyfr ond cynhwysir rhain er mwyn eu defnyddio esbonir sut i wneud hynny'n glir ac nid ar gyfer eu profi. Ar ddiwedd pob pennod ceir set o gwestiynau ymarferol sydd yn atgoffa dyn o ddyddiau mathemateg lefel A. Tua diwedd y llyfr mae yna bennod ar gamddefnydd a chamddehongliad o ystadegau sy'n dangos yn eglur y meini tramgwydd sy'n gallu arwain nifer o ysgrifenwyr at gasgliadau ffug yn sicr ar bynciau meddygol a gwyddonol. Ar gyfer y rhai sy'n bwriadu ysgrifennu erthyglau sy'n golygu casglu data a'u dehongli'n syml ac ar gyfer darllenwyr y fath erthyglau mae'r llyfr yn HANFODOL, ac mae'n ddealladwy i bawb sydd wedi cyrraedd o gwmpas safon y chweched dosbarth mewn mathemateg. DrDavidP. W. Roberts