Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GOLYGYDDOL Yng nghynhadleddau diweddar Y Gymdeithas Feddygol bu nifer o'r aelodau yn darlithio ar feddyginiaethau amgen. Ni fyddai hyn yn debyg o fod wedi digwydd mewn unrhyw gymdeithas feddygol ddeugain mlynedd yn ôl, ac o'r herwydd mae'r Gymdeithas yn haeddu canmoliaeth am ei hagwedd oleuedig. Hyd at yn gymharol ddiweddar gelwid pob dull o feddyginiaethu nad oedd o fewn cwmpas dulliau'r sefydliad meddygol yn "feddygaeth ymylol". Bu newid yr enw i "feddygaeth amgen" yn ddigwyddiad arwyddocaol, oherwydd ei fod yn dangos y newid yn statws y fath ddulliau. Y mae carfan gynyddol o'r sefydliad meddygol yn derbyn fod gan acwbigo, homeopathi, myfyrdod trosgynnol, osteopathi ac ati, eu rhan i chwarae ar faes eang a chymhleth afiechyd. Os nad yw meddygon yn credu fod lawer o werth yn y dulliau hyn, nid oes gan aelodau'r cyhoedd unrhyw amheuaeth. Mae dros 1,000,000 ohonynt yn derbyn triniaeth amgen ym Mhrydain bob blwyddyn. (1) Beth yw y rhesymau am ymateb negyddol llawer o feddygon a diystyrru yr effaith ar y boced? Un ffactor pwysig yw ein bod wedi ein trwytho yn y gyfundrefn uniongred, ac nid mater hawdd yw edrych yn wrthrychol yn y fath sefyllfa. Wedi'r cyfan ni fyddai'r Hen Gorff yn mabwysiadu damcaniaethau Mahomed ar chwarae bach! Ffactor arall yw'r ymwybyddiaeth o'r difrod a wnaethpwyd gan gwacyddion gydol y canrifoedd cymaint felly, fel i'r Gymdeithas Feddygol Brydeinig gyhoeddi dwy gyfrol i ddatgelu twyll y moddion a werthid ar ddechrau'r ganrif hon gan y crachfeddygon niferus. (2) Roedd hysbysiadau am y fath foddion i'w gweld o fewn cloriau cylchgronau parchus a newyddiaduron Cymraeg hyd yn oed yn y Cymru Coch. Ond, ar y llaw arall, rhaid cofio fod rhai o'r dulliau amgen, fel acwbigo, wedi cael eu hymarfer yn llwyddiannus am ganrifoedd o flynyddoedd yn y Dwyrain cyn sefydlu meddygaeth wyddonol. I raddau helaeth, dros yr un cyfnod defnyddiau ffisigwyr y Gorllewin yr union lysiau a gynhwyswyd yn Hysieulyfrau'r 16 ganrif a'r 17 ganrif. Yn ddiweddar gwelais feibl rhagnodi Dr Lewis Edwards, Maentwrog yn 1812, sef copi o Lysieulyfr Teuluol Syr John Hill a gyhoeddwyd yn 1746. Os edrychwn ar Ffarmacopeau Prydeinig canol y ganrif hon gwelwn mai sylweddau llysieuol a chemegau naturiol oedd eu prif gynhwysion. Ar ôl yr Ail Ryfel Byd y digwyddodd datblygiad ffrwydrol y diwydiant cyffuriau labordai, er mawr fudd mewn llawer modd. Ni fyddai unrhyw un yn nacáu cyfraniad gwyddoniaeth i feddygaeth, ond mae peth anghydfod rhwng y gwyddonydd meddygol a'r meddyg traddod- iadol. Mae meddygon a oeddynt wedi cychwyn ar eu gwaith cyn datblygiadau'r rhan olaf y ganrif hon, wedi cael trafferth dygymod â'r newid agwedd sydd wedi digwydd. Y perygl mwyaf, yw colli golwg ar y claf fel person cyfan. Digwyddodd hyn eisoes yn rhai o wledydd datblygedig y Gorllewin. Credwn fod hynny'n rhannol gyfrifol am ffyddlondeb y cyhoedd i feddyginiaethau