Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

amgen. Y mae ffactorau eraill fel pryder ynghylch sgîl-effeithiau cyffuriau a diffyg amser i wrando cwyn ac ati. Fodd bynnag, rhed dwy egwyddor fel llinyn arian drwy athroniaethau nifer o'r dulliau amgen, sef gallu cynhenid y corff i iachau ei hun (y nerth bywydol) a phwysigrwydd cytbwysedd. Daeth athrawiaeth cytbwysedd yn y corff i'r Gorllewin o feddyliau ffrwythlon y Groegiaid, onid cytbwysedd y pedwar hylif oedd hanfod dysgeidiaeth Galen? Ond yn China roedd athrawiaeth cyt- bwysedd yr yin a'r yang mewn bodolaeth ymhell cyn hynny. Fel y dywedodd Dr Holland, ysgrifennwyd y llyfr cyntaf ar acwbigi, y Nel Su Wen, 500CC. Ni ellir gwahanu'r syniad o gytbwysedd yn y corff oddi wrth driniaeth y person cyfan. Gydag ymddangosiad diweddar Y Feddygaeth Holistaidd, ail-ddarganfuwyd y person cyfan. Credir fod tair rhan i driniaeth y person cyfan; corfforol, seicolegol ac ysbrydol. Mae pob meddyg yn derbyn, ac wedi cael profiad o'r ddau gyntaf, ond mae'r olaf yn fwy dadleuol, 0 leiaf yng ngwledydd y Gorllewin. Yn ei drafodaeth ar fyfyrdod cyfeiriodd y Dr Gareth Owens at y berthynas rhyngddo â chrefydd yr Hindu. Ers pan wahanodd dwy garfan y Bobl Indo-Ewropeaidd o gyffiniau Môr Caspian yn gynnar yn hanes gwareiddiad, un i'r Dwyrain a'r llall i'r Gorllewin datblygwyd dwy system feddygol hollol wahanol. Canolbwyntiodd y Gorllewin ar resymeg, tra fod y Dwyrain wedi sylweddoli pwysigrwydd yr agwedd ysbrydol. Heddiw, mae cyfraniad triniaeth corfforol i iachau yn anfesuradwy, ond ni ellir dweud hynny i'r un gradd am driniaeth seicolegol. Cydnebydd llawero seiciatregwyr y rhan a chwareuir gan grefydd mewn anhwylderau y meddwl. Ysgrifennodd Jung, "Gydol y 30 mlynedd diwethaf daeth pobl 0 bob gwlad gwareiddiedig yn y byd i ymgynghori â mi. Rwyf wedi rhoddi triniaeth i lawer cannoedd o bobl. Ymysg yr oll o'm cleifion yn yr ail hanner o fywyd hynny yw dros 35 ni fu un ohonynt nad ei broblem yn y pen draw oedd dod o hyd i agwedd grefyddol at fywyd. Mae'n ddiogel dweud fod pob un ohonynt wedi datblygu afiechyd, oherwydd iddo golli'r hyn a rydd crefyddau byw i'w dilynwyr o bob oes, ac ni chafodd yr un ohonynt wellhad llwyr heb ail-adnabod ei agwedd grefyddol." (3) Mae'n honni fod "Adnabyddiaeth y Ffisigwr o ffactorau ysbrydol yn hanfodol bwysig." (4) Aiff William James gam ymhellach, "Parthed gweddi dros y cleifion, os gellir ystyried fod unrhyw ffaith feddygol yn sefyll yn gadarn, hon yw fod gweddi dan rai amgylchiadau yn cyfrannu at wellhad, a dylid ei hannog fel dull therapewtig". (5) Rhaid cofio fod Jung a James yn byw mewn oes lle'r oedd crefydd yn chwarae rhan ganolog mewn bywyd. Tybed beth sydd gan y dyn modern soffistigedig ei angen? Oni fyddai'n ddiddorol gwneud pôl piniwn o feddygon Cymru heddiw ar osodiadau Jung a James? Chwaraeodd yr offeiriaid a'r eglwys ran amlwg mewn meddygaeth gydol y canrifoedd, ond nid dadl am grefydd fel y cyfryw ydyw, ond yn hytrach am