Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GENETEG YR ASTHMA AC A TO PI CROMOSOM 11 A FcER1-B Dr Julian Hopkin Rhagymadrodd Mae asthma yn glefyd cyffredin. Ym Mhrydain mae'n digwydd mewn 5% o blant ar rhyw dro neu gilydd, ac mae'n peri 2,000 o farwolaethau pob blwyddyn. Dengys ymchwil fod llid ym mhibellau'r ysgyfaint yn sylfaen i asthma. Atopi neu adweithiad dwys i lychau diniwed, fel paill neu gynhyrchion gwyddon ty, yw prif achos y llid mewn pobl ieuainc. Mae'n amlwg hèfyd fod achosion yr atopi yn gymhleth ac yn cynnwys ffactorau genetig ac eraill o'r amgylchfyd. Er hynny, ni fu eglurhad o'r ffactorau genetig. Dyma felly hanes ein ymchwil ar y testun yn ystod y deng mlynedd ddiwethaf yn Rhydychen. Astudiaethau ar deuluoedd Erbyn hyn casglwyd 450 o deuluoedd yn cynnwys tua tair mil 0 bobl i'r astudiaeth. Daeth y teuluoedd o Loegr, a rhai ohonynt ar wasgar o Awstralia, ac roedd pob un ohonynt â phlentyn yn dioddef o atopi. Ym mhob person casglwyd hanes yr afiechyd, mesuriadau y gwrthgorffyn IgE a hefyd DNA o'r celloedd gwaed. Gwelsom drosglwyddiad pendant o lefelau uchel o IgE yn y teuluoedd, a oeddynt yn awgrymiadol o effaith genetig pwysig ar ddatblygiad atopi eu hun. Serch hynny, gwelwyd gymhlethdod o ran union batrwm yr afiechyd, naill a'i asthma, clefyd y gwair neu croenlid, ac o ran mesurau lefel IgE at lychau penodol yn y teuluoedd. Mae'n ymddangos o hyn fod effeithiau eraill yn cyd-weithio gyda'r weithred enetig ar fesur uchel IgE. Astudiaeth ar DNA; cyd-drosglwyddiad (linkage) Ond sut y gallem ni ddarganfod tarddiad a pheirianwaith y weithred enetig? Gallasom ddefnyddio dulliau grymus y chwildroad genetig molecylaidd a oeddynt ar gael ers y 70au. Gyda'r dulliau hyn gellir lleoli genyn, ei adnabod, ac yna ei ddadansoddi'n fanwl. Aethom ati i gymharu trosglwyddiad mesurau IgE â throsglwyddiad darnau bychain o DNA yn y teuluoedd. Ar ôl nifer o ymgeisiadau, gwelsom fod cyd-drosglwyddiad â darnau o DNA o gromosom 11 yn y mwyafrif. I fod yn gywir, roedd cyd-drosglwyddiad, ac felly arwydd o gysylltedd genetig (genetic linkage) yn digwydd mewn tua 60% o'r teuluoedd. Am gyfnod, bu dadlau ynglyn â'n darganfyddiad, oherwydd methiant rhai