Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

RHEOLAETH AR HAINT TOCSOPLASMA GONDII Dr David H. M. Joynson Mae Tocsoplasmosis yn haint byd eang mewn dyn, anifail ac aderyn, a'i achos yw'r protoswn Tocsoplasma gondii. Darganfuwyd yr organeb ym 1908 gan Nicholle Maanceaux mewn gondi, anifail bach sy'n bod yng Ngogledd Affrica, ond disgrifiwyd yr un organeb mewn cwningen yn yr un flwyddyn gan Splendore ym Mrasil. Disgrifiwyd y claf cyntaf ym 1923 gan Janku ond er hynny, ni sefydlwyd tocsoplasmosis fel haint dynol tan y flwyddyn 1937. Epidemioleg Swnosis yw Tocsoplasmosis, a'r gath yw'r gwestywr pendant. Mae tocsoplasmosis yn bodoli mewn tair ffurf heintus:- 1. Tacisoit (Tachyioite) ffurf sy'n byw yn rhydd yn y corff. 2. Bradisoit (Bradyzoite) coden yn y meinwe. 3. Wgoden (Oocyst) coden yn yr amgylchfyd. Ysgerthir yr wgodennau mewn ymgarthion cath a difwynir yr amgylchfyd i greu ffynhonnell haint i ddynion ac anifeiliaid. Yn y cylch naturiol heintir llygod ac anifeiliaid bychain eraill a bwyteir hwy gan gathod. Ar ôl cyfnod o ddatblygu yng ngholuddyn bach y gath, ysgerthir wgodennau tocsoplasma yn yr ysgarthion am tua tair wythnos. Ar ôl ychydig ddyddiau mae'r wgodennau yn heintio, ac mae'r cylchred yn ailadrodd ei hun. Aildaflir i fyny i 10 miliwn o wgodennau mewn diwrnod a gallent fyw mewn pridd hyd at 18 mis. Fel arfer dim ond unwaith y mae cath yn alldaflu yr wgodennau yn ystod ei bywyd. Trosglwyddiad a Chyffredinolrwydd Fel arfer mae'r haint yn digwydd trwy fwyta un o'r wgodennau o lysiau neu bridd heintiedig neu goden feinwe mewn cig amrwd neu gig heb ei goginio'n ddigonol. Deuir o hyd i'r codennau ymysg llawer o anifeiliaid dofion a gwylltion, ac yn arbennig maent yn heintio cig moch a chig oen. Mae'n anghyffredin darganfod codennau mewn cig eidion. Mae'r haint yn fwy cyffredin mewn gweithwyr lladd-dŷ a chigyddion. Yn ffodus lleddir y codennau wrth goginio'n drylwyr, wrth biclo neu eu trin â phelydriad-gama, ac yn arferol trwy eu rhewi o dan -20C. Digwydd haint hefyd wedi yfed llaeth gafr heb ei basteureiddio. Mae rhai arolygon serolegol yn awgrymu mai cig yn hytrach na chathod yw prif ffynhonnell yr haint ond mae llwybr arferol yr haint yn parhau i fod yn ansicr ym Mhrydain. Darganfyddir yr haint dynol trwy'r byd ond mae'r trawiant yn amrywio 0 wlad i wlad (gweler Tabl 1). Mae cyfnewidsero hefyd yn cynyddu gydag oed,