Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Tabl 3. Rhagofalon i Atal Haint Tocsoplasma 1. Dylid gwisgo menyg tra'n gwagu hambwrdd ysgarthion cath ac ymolchi'r dwylo wedyn. 2. Dylid diheintio hambwrdd ysgarthion cath yn ddyddiol gyda dwr berwedig am 5 munud. 3. Ni ddylid bwyta cig sydd heb ei goginio'n drylwyr. 4. Dylid ymolchi'r dwylo'n ofalus a thrylwyr wedi trin cig amrwd. 5. Dylid golchi arwyneb unrhyw ford neu offer cegin sydd wedi eu cyffwrdd â chig amrwd. 6. Dylid golchi ffrwythau, llysiau a letys yn drwyadl cyn eu bwyta. 7. Dylid gwisgo menyg i arddio ac ymolchi'r dwylo wedi cyffwrdd â phridd. 8. Ni ddylid yfed llaeth (llefrith) heb ei basteureiddio, yn enwedig llaeth gafr. I Ffermwragedd heb Imwnedd 1. Ni ddylid rhoi unrhyw gymorth gydag ŵyna. 2. Ni ddylid cyffwrdd wyn na'u cario i'r ty. 3. Dylid sicrhau fod dillad a wisgir gydag wyna yn cael eu dadwisgo y tu allan i'r ty a'u golchi ar wahân, ni ddylid cyffwrdd y dillad. 4. Dylid sicrhau fod partneriaid sy'n ymwneud ag wyna yn sgrwbio eu hewinedd yn drylwyr ac yn dilyn rheolau glendid caeth.