Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

benyw. Yang yw'r gwryw, ac mae'n ddydd, haul, nefoedd, tân, gwres, sychder a goleuni. Yin yw'r fenyw, sydd hefyd yn nos, lleuad, daear, oerni, gwlybaniaeth a thywyllwch. O dan amgylchiadau naturiol mae'r corff yn iach. Pan mae diffyg yng nghlorian ynni yr Yin neu'r Yang mae afiechyd yn digwydd. Ac felly i'r Tsieineaid mae'r corff yn rhyw fath o nenfwd mewn manddarlun. Yn union fel y mae y byd yn llawn o ynni (awyr, môr a thir), felly y mae ynni yn y corff, ac fe elwir yr ynni hwn yn Qi. Pan mae'r ddaear yn wlyb bydd llifogydd, felly mae'r corff yn datblygu oedema pan y mae gormod o hylif ynddo. Oherwydd syniadau o'r math hwn, mae'r Tsieineaid yn credu y ddamcaniaeth fod afiechyd yn cael ei achosi pan mae gormodedd, neu rhy ychydig, o'r ynni Qi o fewn yr Yin neu'r Yang. Nid oeddynt yn archwilio am bresenoldeb neu absenoldeb newidiadau patholegol yn y corff. Byddai'r Tsieineaid yn defnyddio deddfau traddodiadol i ddarganfod arwyddion o anghytbwysedd yn y glorian ynni. Roeddynt yn edrych ar y dafod, Astudiaeth o Acwbigo. Deuddeg sianel (meridian) bwysig ynni yn llifo. Pwyntiau acwbigo ar hyd y sianelau wedi eu cysylltu. Pwyntiau allweddol ( Trigger points). Ffìgwr 3