Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YSGRINIO AM GANSER CEG Y GROTH Dr Namor Wyn Williams Mae canser ceg y groth yn lladd bron i 2,000 o ferched pob blwyddyn, gydag oedran yn amrywio 0 20 i 85 mlwydd oed. Mae 50% ohonynt rhwng 45 a 65 mlwydd. Mae gan merched sydd yn iau na 40 mlwydd oed siawns o 2% o gael canser neu cyn-ganser ceg y groth. Wrth ysgrinio rydym yn gobeithio lleihau cyfartaledd marwolaeth. Canser y celloedd cennog yw'r mwyaf amlwg, mae 4% yn adenocarsinoma a'r gweddill yn rai anghyffredin, e.e. melanoma neu lymffoma. Cyn i'r canser ddechrau treiddio mae yna newidiadau yn yr epitheliwm y cyn-ganser, sef dysplasia (CIN). Dyma'r newidiadau rydym yn ceisio eu darganfod drwy ysgrinio. Hanes Cyn 1928 biopsi o geg y groth oedd y dull o ddarganfod canser, ond yn y flwyddyn honno edrychodd Papanicolaou ar gytoleg gorarllwysiadau o'r wain. Yr oedd yn medru adnabod canser yn y celloedd hyn. Dywedodd Ewing, un o brif batholegwyr y cyfnod: "Gan fod ceg y groth o fewn cyrraedd i archwiliad â biopsi, sy'n eithaf hawdd, mae cytoleg yn ormodol." Felly ni fu newid yn yr ymarfer meddygol. Erbyn 1943 roedd staen newydd, wedi ei ddyfeisio gan Papanicolaou, ar gael ac roedd y cysyniad o gyn-canser wedi ei sefydlu. Dechreuodd pobl feddwl am ddefnyddio cytoleg i ysgrinio am ganser ceg y groth. Yn 1945 fe agorwyd y clinig ysgrinio cyntaf ym Masachusetts, Unol Daleithiau America, ac yn y chwedegau yr oedd ysgrinio ar gael ledled Prydain. Ysgrinio Pwrpas ysgrinio yw darganfod y cyn-ganser cyn iddo droi'n ganser treiddiol. Hefyd mae'n bwysig dod o hyd i ganserau sydd wedi treiddio er mwyn eu trin gynted ac sydd bosibl gan obeithio nad ydynt wedi chwaldyfu. Dengys ffigwr 1 fraslun o'r hyn all ddigwydd wrth ysgrinio ar dri achlysur olynol. 1. Canser treiddiol yn cael ei ddarganfod ar yr archwiliad ysgrinio cyntaf. 2. Cyn-ganser (CIN) yn cael ei ddarganfod ar yr ysgriniad cyntaf, yn cael ei drin, ac yna yr ail a'r drydedd ysgriniad yn normal. 3. Cyn-ganser yn cael ei ddarganfod ar yr ail ysgriniad, ac yn ailddigwydd cyn y trydydd ysgriniad.