Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

EFEILLIAID CAERDYDD CREU COFRESTR Dr Huw Davies Mae gwaith ymchwil yn rhan bwysig o addysg a datblygiad pob meddyg ysbyty. Dyma fy stori am sut yr ymatebais, gan ddangos mor lletchwith, caled a rhwystredig y mae'n gallu bod, ond hefyd gobeithiaf brofi ei fod yn werth ei wneud. Fel y gwelwch ar adegau mae'n debyg i waith ditectif neu'r gorchwyl o dynnu croen wynwyns, ac mae hefyd yn gallu creu dagrau! Ambell waith roedd yn rhaid cael hoe bant o'r gwaith. Pan oeddwn yn gweithio fel cofrestrydd seiciatregol ymchwil yng Nghaerdydd ym 1990, roeddwn yn chwilio am brosiect gwirfoddol sylweddol i ymchwilio iddo, hyn yn ogystal â'r gwaith bob dydd o gymharu cyffuriau at iselder ysbryd. Cefais f'ysbrydoli gan Yr Athro Peter McGuffin i greu cofrestr arbennig, cofrestr o efeilliaid a seiliwyd ar boblogaeth. Hon fyddai'r gyntaf ym Mhrydain; dim ond tair neu bedair sydd i'w cael yn y byd. Dewisais astudio pob pâr o efeilliaid a anwyd yn Ysbytai Caerdydd rhwng 1.9.71 a 1.9.78. Felly pan gychwynnais ar y gwaith roeddynt yn amrywio mewn oed o 12 i 19. Pwysigrwydd cofrestrau efeilliaid yw eu manteision mewn astudiaethau genetig, nid yn unig i afiechydon seiciatregol, e.e. ffobiau, ond hefyd i glefydau corfforol, e.e. y clefyd melys. Mae yna ddulliau sefydliedig eraill o astudio effeithiau ffactorau genetig Astudiaethau Teuluol ac Astudiaethau ar Fabwysiadu, ond maent yn gyfyngedig. Beth yw'r manteision o astudio efeilliaid? Mae dau fath o efeilliaid. Mae rhai unwy (MZ) â 100% o'u genynnau yr un fath, ac mae y rhai deuwy (DZ) â dim ond 50% o'u genynnau yr un fath, ond mae gan pob un ohonynt yr un amgylchedd, (yr un teulu, yr un ysgol ac ati). Mae ymddangosiad unrhyw ffactor mewn person yn dibynnu ar swm o effeithiau genynnau ac amgylchedd. Amgylchedd GENOTEIP Cydranno I ( e.e. teulu) Snv FFENOTEIP Amgylchedd À (Af iechyd) Unigryw ( e.e. f f r indiau/ profiadau unigryw) Ffigwr 1