Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Felly, os oes gwahaniaeth rhwng amlder digwyddiad rhyw afiechyd (e.e. sgitsoffrenia) mewn efeilliaid unwy o'i gymharu a'r amlder mewn efeilliaid deuwy (hynny yw y gymhareb MZ:DZ) yna y rheswm am y gwahaniaeth mewn cytgord yw'r gwahaniaeth genetig yn nifer y genynnau sydd wedi eu cydrannu. Er enghraifft, mae ffigyrau Gottesmann am y gymhareb MZ:DZ sgitsoffrenia yn 48 17, ac yn dangos yn glir bwysigrwydd genynnau: a pho fwyaf oll yw'r gwahaniaeth rhwng y ffigyrau hyn, yna po fwyaf oll yw cyfraniad genynnau. Mae o leiaf dair ffordd i greu cofrestr efeilliaid:- a) Trwy ofyn i eraill am wybodaeth am barau o efeilliaid lle mae o leiaf un ohonynt yn berchen ar elfen arbennig i'w hastudio, ond mae astudiaethau o'r fath yn creu tuedd trwy anwybyddu parau o efeilliaid nad oes gan yr un ohonynt yr elfen arbennig. b) Trwy roi hysbysrwydd mewn newyddiaduron neu ar y radio neu deledu, ond mae tuedd yma hefyd, oherwydd mae'r neges yn cyrraedd poblogaeth wahanol pan newidir y cyfrwng. c) Trwy astudio pob pâr o efeilliaid sy'n dod o boblogaeth arbennig. Mae'r cofrestrau hyn yn ddiduedd ac mae'r ffactorau amgylcheddol yn rheoledig. Arolwg Genedigaethau Caerdydd Ers 1965 sefydlwyd cofrestr o bob genedigaeth ym mhob ysbyty yng Nghaerdydd. Crewyd hon gan Miss Joan Andrews, Ymgynghorydd mewn Obstetreg, er mwyn hybu ymchwil ac am resymau clinigol. Recordiwyd yr holl wybodaeth gan Adran Epidemioleg y Brifysgol. Yn y dechreuad roedd popeth wedi ei ysgrifennu ar bapur yn unig, ond yn ddiweddarach gosodwyd y manylion ar y cyfrifiadur hefyd. Mae'r dasg yn un enfawr ac yn cadw nifer o weithwyr a neilltuwyd i'r gwaith yn brysur iawn. I ddechrau mae bydwragedd yn nodi mewn llyfryn nifer o fanylion ynglyn â'r beichiogrwydd, yr enedigaeth a'r babanod. Mae gan pob mam rif penodol, a defnyddir y rhif hwn yn y cyfrifiadur, ac fe roddir rhif i'r plant wedi ei seilio ar rif y fam. I gymhlethu'r sefyllfa, newidiwyd y system ym 1975 i ddefnyddio rhifau P.A.S. (Cyfundrefn Gweinyddu Cleifion) o hynny ymlaen. Yn y llyfryn cofnodir enw'r fam, ei chyfeiriad ar y pryd a'i hoedran (yn fras yn unig cyn 1975, ond ar ôl hynny gyda dyddiad geni y fam). Mae ffeithiau fel statws ysmygu a phwysedd gwaed yn cael eu cofnodi, yn ogystal â manylion am y babi, e.e. pwysau, sgôr Apgar ac enw, os oes un, (neu'n aml iawn rhif 1 neu rhif 2 yn lle enw). Camgymeriad mawr oedd fy ngham nesaf, gwnes gopi gofalus ar bapur o bob ffaith pwysig (e.e. pwysau geni) am bob gefell o'r llyfryn gwreiddiol er mwyn edrych yn ystadegol arnynt yn ddiweddarach. Fe gymerodd hyn wythnosau lawer. Er i mi fod yn awyddus i ddechrau ar yr ymchwil, bu raid i mi aros am fod nifer o amrywiol anawsterau yn gorfodi oediad cyn ei chychwyn. Yn gyntaf roedd angen trefnu sawl cyfarfod â Miss Andrews, a hithau'n