Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ifancaf i'w hychwanegu felly'n gwneud cyfanswm o 218/338. Byddai wedi bod yn bosibl cael mwy o wybodaeth am y rhai a symudodd yn ôl i Dde Forgannwg ond yn anffodus y mae polisi y F.S.H.A. yno wedi newid. O hyn ymlaen nid ydynt yn fodlon rhoi unrhyw wybodaeth (hyd yn oed enw'r meddyg) am ei fod, yn eu tyb hwy, yn troseddu Deddf Diogelu Manylion (Data Protection Act)! Nid oedd llythyron yn apelio am help i'r ymchwil o ddim gwerth rhwystr arall! Fy ngofid yn awr yw y gall siroedd eraill ddilyn eu hesiampl. Yr unig beth allwn ei wneud yw bwrw ymlaen. Erbyn hyn roedd Uwch gofrestrydd, Dr Alastair Cardno, wedi ymuno â mi i gael profiad a rhoi help llaw, ac fe ysgrifenasom yn uniongyrchol at yr efeilliaid. Cynnwys y llythyron oedd gwybodaeth am yr ymchwil, holiadur i wahaniaethu rhwng parau unwy a deuwy, ac ail holiadur i holi am ffobiau, y pwnc cyntaf i ni ymchwilio iddo ymysg efeilliaid. Nid yw'r canlyniadau yn barod eto, ond roedd y gwaith o baratoi'r cofrestr yn teimlo fel canlyniad ynddo ei hun. (Cydnabyddiaeth hoffwn ddiolch i'r Athro Peter McGuffin, Miss Joan Andrews, Dr Alastair Cardno a Dr Anita Thappa am eu cyngor a'u cydweithrediad.)