Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

O HANES MEDDYGAETH Laennec a'i Stethosgôp Dr Emyr Wyn Jones 7 have been able to hear very plainly the beating of a Man's Heart'. Robert Hooke, 1705. Hanner canrif yn ôl, ac eilwaith y llynedd, cefais y fraint o sefyll wrth gofeb René Théophile Hyacinthe Laennec, gerllaw Eglwys Gadeiriol Quimper yn Llydaw, ac i fyfyrio ar ei athrylith amlochrog a'i gyfraniad cwbl unigryw yn ddamcaniaethol ac yn ymarferol i ddatblygiad meddygaeth, ac i dalu gwrogaeth i'w goffadwriaeth. Gellir haeru'n deg mai Laennec a sefydlodd y feddygaeth glinigol fodern, oherwydd mai ef a ddarganfyddodd y ddawn a'r wyddor o glustfeinio meddygol, neu, i fod yn fanwl gywir, clustfeinio cyfryngol. O ganlyniad i'r weledigaeth agorwyd y drws i ddull newydd o archwilio gwir natur anhwylderau'r ysgyfaint a'r galon, ac i raddau llai fe arloeswyd meysydd eraill yn ogystal. Mae James Herrick, y cardiolegydd hyglod o'r Unol Daleithiau, yn derbyn yn ddibetrus farn Charles Singer, prif hanesydd datblygiad meddygaeth a gwyddoniaeth, fod: ef [Laennec] heb ronyn o amheuaeth, ymhlith cewri meddygol mwyaf y byd mewn unrhyw gyfnod o hanes'. Fel y gwyr pob efrydydd meddygol, mae pedair elfen sylfaenol i bob archwiliad clinigol ar y claf. Wedi gwrando ar gwynion y dioddefydd a thrafod ei symptomau, a holi am ei waith a'i ddiddordebau, natur ei arferion a'i gefndir teuluol, dilynir hyn gan archwiliad ar hyd pedwar llwybr traddodiadol a threfnus; sef, sylwebaeth neu arolwg (inspection), palfalu neu deimlo â'r dwylo a'r bysedd (palpation), ergydiant ysgafn (percussion) a chlustfeiniad (asucultation). Mae'r ddau lwybr cyntaf yn ymestyn yn ôl at Ipocras (460-370 C.C.), ac ymhell cyn hynny mae'n siwr, at ddyddiau cynharaf esblygiad dyn. Meddyg o Awstria Nid oedd amgyffred o werth clinigol ergydiant nes i feddyg o Awstria, Joseph Leopold Auenbrugger (1722-1809), mab i dafarnwr yn Graz, ystyried yr afell ddynol, y thoracs, fel baril o gwrw, a chofio am ei dad yn ergydio'r barilau â'i fysedd er mwyn gwybod pa mor wag, neu lawn, oeddynt. Gyda'i ddawn gerddorol a'i wybodaeth feddygol trosglwyddodd Auenbrugger arfer syml ei dad i bwrpas astudiaeth ddyfal o afiechydon y frest, ac ym 1761 cyhoeddodd ganlyniadau ei ymchwil yn y gyfrol Inventum novum ex percussione thoracis