Skip navigation

Cennad

 - 

Rhif 13 1994

Cyfundrefn y tlodion fel gofalydd seiciatregol yng nghorllewin Morgannwg yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg

Previous page Rotate Left Rotate Right Next page Original Image Large Image Zoom View text PDF
Jump to page
Am ganrifoedd, cyfundrefn y tlodion a dderbyniodd y rhan fwyaf o'r
cyfrifoldeb am gynnig rhyw fath o wasanaeth amrwd, ansoffistigedig yn y maes
hwn, a hynny, gellid tybio, â chryn dipyn o anfodlonrwydd; wedi'r cwbl, braidd
y byddai neb arall wedi ymgiprys am waith a oedd mor ddiddiolch. Y mae'r
cyfeiriad cyntaf y daethpwyd o hyd iddo yn y cyswllt hwn ym Morgannwg yn
perthyn i'r ail ganrif ar bymtheg. Ym 1667, yn Abertawe, talodd swyddogion y
plwyf ddau swllt a chwe cheiniog i Reese Jones 'am ofalu am wallgofddyn am
wyth noson'. Er na wyddys dim am amgylchiadau'r achos, y mae'n bur debyg y
gellir priodoli'r haelioni annodweddiadol hwn ar ran cynrychiolwyr y
plwyfolion yn fwy i'r awydd i amddiffyn y trigolion lleol nag i unrhyw bryder
am les y claf. Ni ddigwyddodd unrhyw welliannau sylweddol erbyn y
ddeunawfed ganrif. Ym 1787, ym mhentref Llanfleiddian, ym Mro
Morgannwg, rhoddwyd gorchymyn fod yn rhaid 'cadw a chloi T.R. [yn
ddiogel] tra pharhao ei orffwylledd'. Wedi hynny, cafwyd fod ei ymddygiad yn
y ddalfa wedi 'peri trafferth i'r Meistr a'r carcharorion', a phan ofynnwyd i Lys
Chwarter Morgannwg ddyfarnu ar y pwnc, fe'i trosglwyddwyd yn ôl i ofal y
pentrefwyr, gan mai eu cyfrifoldeb hwy oedd gofalu amdano. Mewn ardaloedd
lIe y cafwyd cyfoethogion mwy trugarog na'r rhelyw, gellid disgwyl darpariaeth
a oedd yn fwy digonol. Er enghraifft, yn ardal Y Gelli Gandryll ym 1699,
adeiladwyd elusendai gan Elizabeth Gwyn, ac yn ei hewyllys, gadawodd fferm
o 58 erw a chanpunt at yr un gwaith. Cadwyd y tai hynny hyd at y bedwaredd
ganrif ar bymtheg. Ond prin oedd achosion tebyg. Afraid dweud mai tlawd
oedd llawer o blwyfi Cymru, ac er iddynt fod dan bwysau i osod trethi lleol,
prin y gellid fod wedi disgwyl iddynt gwrdd yn ddiymdrech â'r gofynion a
osodwyd arnynt. Ac mewn llawer ardal, ni fyddai'r swyddogion lleol yn brin o
bwysleisio mai gweithredu gwasanaeth dan brotest yr oeddent. Efallai mai'r
enghraifft fwyaf eithafol o hyn a gaed oedd yng ngeiriau'r weddi honno a
ysgrifennwyd i'w defnyddio mewn tlotai, lle y disgwylid i'r rhai a gadwyd yno
ymbil am ras i beidio â 'meithrin pechod â bara segurdod'. Ni ddiflannodd yr
agwedd hon drwy gydol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ym 1817, pan
gwynodd Henry Sockett, bargyfreithiwr a gymerasai ddiddordeb digon byw
yng nghyflwr y tlodion yn Abertawe, am y niferoedd o blith 'yr afradlon a'r
dioglyd' a oedd yn derbyn budd-daliadau, nid oedd ond yn adlewyrchu'r
syniadau a goleddwyd, onid yn wir a ymfalchïwyd ynddynt, gan lawer o blith y
breintiedig rai.
Yr oedd y berthynas rhwng tlodi a rhai mathau o ddoluriau yn ddigon hysbys
ers amser. Yn ddiweddarach, sylweddolwyd y gallai'r unigolion a ddioddefai
o'r cyflyrau seicotig ddisgyn i ddosbarth cymdeithasol is wedi iddynt
ddatblygu'r math hwnnw o dostrwydd. Er hynny, ym 1868, ni chredwyd fod
mwy na 4.3 y cant o'r achosion o dlodi a welwyd i'w priodoli i dostrwydd
meddwl, ond eto, yr oedd pum deg a thri o 'wallgofiaid tlawd' yn byw yn ardal
Nedd ar y pryd. Ychwanegwyd at y broblem o ofalu am gleifion o'r fath wrth i'r
Previous page Rotate Left Rotate Right Next page Original Image Large Image Zoom View text PDF
Jump to page

This text was generated automatically from the scanned page and has not been checked. Typical character accuracy is in excess of 99%, but this leaves one error per 100 characters.

The National Library of Wales has created and published this digital version of the journal under a licence granted by the publisher. The material it contains may be used for non-commercial purposes only while respecting the moral rights of the creators. The material it contains may be used for the creation of derivative works for educational purposes only.