Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

tlodion symud o un plwyf i'r llall, gan chwilio am loches a gwynfa yn yr ardaloedd cyfagos. Yn aml, arweiniai hyn at ddirywiad yn y berthynas rhwng plwyfi cyfagos. Felly, nid oedd yn beth anarferol iddynt osod hysbysebion mewn newyddiaduron yn gofyn am wybodaeth a'u cynorthwyai i ddod o hyd i deuluoedd ac ardaloedd cysefin y crwydriaid diymgeledd hyn. Ar brydiau, ni ellid setlo'r dadleuon ond mewn llys barn. Ym 1848, yn llys chwarter sir Forgannwg, honnwyd ar ran pentrefan Dulais Uchaf fod M.M., a ddisgrifiwyd fel tlotyn gwallgof, yn perthyn i ardal Llansawel, gan ei bod hi wedi cael mynediad i'r gwallgofdy yno. Dangoswyd gan fargyfreithiwr ar ran yr ail blwyf fod tystiolaeth gelwyddog wedi ei offrymu, a chollwyd yr achos. Gydag amser, gosodwyd cyfrifoldeb ar swyddogion plwyfi i beidio â rhoi pwysau ar dlodion i newid ardal. Ym 1856, erlyniwyd swyddog elusen o Gastell-nedd am iddo brynu tocyn un-ffordd i Abertawe ar gyfer gwraig a oedd wedi peri trafferth iddo. Felly, gwariwyd arian sylweddol a allai fod wedi cael ei ddefnyddio er mwyn cynnig gwasanaeth gwell, a hynny am nad oedd system drefnus, ganolog yn bod. [3] Bu'n rhaid i gyfundrefn y tlodion ymgodymu ag ymosodiadau cyson y doluriau heintus i raddau helaeth. At hynny, nid yw tostrwydd meddwl, ar y cyfan, yn gyflwr angheuol. Felly, nid yw'n destun syndod na chafodd broblemau seiciatregol le blaenllaw yng nghynlluniau'r awdurdodau hynny. Heb fod ond yn rhy aml, gadawyd y claf ei feddwl i ymdopi drosto ef ei hun, neu yng ngofal teuluoedd a oeddynt eu hunain yn aml yn ddifreintiedig. Ym 1837, cafwyd fod mwy na 100 o gleifion seiciatregol yn byw ym Morgannwg, a gallai fod nas cyfrifwyd hwy i gyd o bell ffordd. Gellid dadlau mai'r digwyddiad pwysicaf yn hanes seiciatreg yng Nghymru hyd at yr amser hwnnw oedd ymweliad cyntaf Comisiynwyr y Gwallgofiaid ym 1843. Wrth iddynt wneud arolwg o'r gofal a gynigiwyd i rai ag anabledd seiciatregol, gwelsant yr erchyllterau mwyaf. Cawsant fod mwy na thri-chwarter o'r sawl a adnabuwyd fel cleifion seiciatregol ym Morgannwg heb ofal digonol. Y rhai a esgeuluswyd fwyaf oedd y 'cleifion unigol'. Ym 1847, yr oedd tua 77 y cant o holl wallgofiaid Cymru yn byw dan amodau felly. Gofalwyd amdanynt mewn tai preifat a thalwyd swllt neu ddau yr wythnos i'r penteulu gan y plwyf. Ni wahaniaethwyd rhwng y claf ei feddwl a'r sawl â deallusrwydd isel, ac yn ne Cymru byddai teuluoedd tlawd weithiau yn ystyried fod cael plant isnormal yn fantais oherwydd y taliadau hyn. Am flynyddoedd lawer, ni fyddai ar gael yn unman yng Nghymru wasanaeth cyffelyb i'r un a gynigiwyd yn rhai o siroedd Lloegr. Yn wir, ym 1860, o'r 1,754 claf a restrwyd yng Nghymru, yr oedd 988 yn gleifion unigol, tra nad oedd ond 44 o gyfanswm o 3,686 yn swydd Middlesex. Gellid pentyrru enghreifftiau unigol, ond rhaid bodloni ar un achos gweddol nodweddiadol. Ar orchymyn gwarcheidwaid Llanymddyfri, ni ddanfonwyd gwraig a oedd yn hollol afreolus yn ei thostrwydd i wallgofdy, 'oherwydd y gost, a'r ffaith fod y plwyf yn dlawd'. Er ei bod hi'n bosibl fod y sefyllfa yn