Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYFRIFIADUR YN Y GWASANAETH IECHYD Dr Terry R. Davies Cyflwyniad Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'r Gwasanaeth Iechyd, ac yn enwedig gwasanaethau gofal cyntaf, wedi dod dan wasgedd cynyddol. Ar yr un llaw mae'r cleifion eu hunain yn disgwyl mwy a mwy o ofal gan y meddyg, ac ar y llaw arall, mae'r gwleidyddion yn creu mwy a mwy o waith i ni i'w wneud. Yn anffodus, credir fod llawer o'r llafur hwn yn amhriodol, a felly, mae'r gwasgedd arnom yn cael ei deimlo gyda dig. Dyma'r cefndir i'r gwthiad technoleg yn yr wythdegau a'r nawdegau cynnar. Mae meddygon yn cysylltu'r gwthiad technoleg hyn â'r gytundeb newydd ac ati, gyda'r canlyniad eu bod yn ymateb yn anffafriol. Credaf fod hyn yn ddigwyddiad anffodus. Hefyd, rydym ni fel clinigwyr yn anwybodus am y defnydd sy'n bosibl i'w wneud o dechnoleg gwybodaeth, rydym yn drwgdybio dull ei weithrediad. Yn wir, er fod dylanwad enfawr gan y cyfrifiadur ar fyd busnes, y gymdeithas a gwleidyddiaeth, nid yw'r Gwasanaeth Iechyd eto wedi ymdopi â'r chwyldro diwylliannol sydd yn cymryd lle o'n hamgylch. Paham fod y Llywodraeth yn awyddus i ni ddygymod â chyfrifiaduron? Wel, mae yna amryw o resymau, ond y pennaf rai yw: 1. Lleihau costau. Nid yw hyn wedi ei brofi eto. Hyd yn awr, ein profiad ni yn y gwasanaeth gofal cyntaf yw mai ychydig iawn o arbed treuliau yn y practis sydd wrth wneud defnydd o gyfrifiadur. Amser a ddengys. 2. Hyblygrwydd. Nid oes amheuaeth fod trin gwybodaeth drwy ddefnyddio electroneg dipyn yn haws na defnyddio cofnodion ar bapur, ond mae'n bwysig fod safonau wedi eu penderfynu a'u bod yn cael eu cadw. 3. Gwella ansawdd a chysondeb. Mae hyn eto yn dibynnu ar safon y cofnodi. Y gwirionedd yw "Sbwriel i mewn, sbwriel allan". 4. Gwella rheolaeth. Mae hyn yn holl bwysig, ond nid yw wedi ei brofi hyd yn awr yn y Gwasanaeth Iechyd. 5. Gwella'r gwasanaeth. Os nad yw hyn yn mynd i ddigwydd, gwastraff amser yw'r holl ymarfer. Credaf fod y Llywodraeth yn ddiffuant yn ei bwriad, ond efallai ei bod yn rhoi llai o bwyslais ar yr agwedd glinigol nag sydd yn deilwng. Mae gennym ni feddygon gyfrifoldeb i ddylanwadu ar y mater hwn.