Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Diweddglo Hyd yn awr, cymharol fychan yw cyfraniad y cyfrifiadur i iechyd yn uniongyrchol, ond mae'r posibilrwydd o greu budd aruthrol i'r claf yn enfawr. Felly, mae'n hanfodol nad ydym ni, feddygon, yn claddu ein pennau yn y tywod, ond yn hytrach ein bod yn cymryd rhan sylfaenol ac adeiladol yn natblygiad gwybodaeth technoleg yn y Gwasanaeth Iechyd.