Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLOFFION "Pan fyddo diffyg anadl yn ddrwg iawn, peth poenus yw i ddyn iach edrych ar y dioddefydd, ond faint fwy i'r dioddefydd ei hun. Y mae diffyg anadl yn aml iawn yn etifeddol. Gall yr afiechyd ymddangos ar unrhyw adeg yn ystod bywyd, o fabandod i henaint, ac yn bur fynnych ymddengys ei hun cyn i'r person gyrraedd ei ddeng-mlwydd oed. Mae yr ymosodiad cyntaf, yn fynnych yn dilyn y pâs, frech goch, neu fronchitis; ond mewn llawer achos ni ellir cyfrif am ei ddechreuad. Disgrifir tri math o ddiffyg anadl gan ein prif feddygon. Tardda un oddi wrth y wendid gîeuol (nervousness). Cwyd math arall oddi wrth ddiffyg treuliad, a cha y rhai hyn ymosodiad ar ôl bwyta bwyd anodd ei dreulio. Achosir y trydydd math gan annwyd a bronchitis. Pan ddigwyddo diffyg anadl, bydd math o wasgiad ar bibellau gwynt yr ysgyfaint (spasm of the tubes), ac felly metha yr anadl a chael ei ffordd yn rhydd. Mae ei arwyddion fel yr arwydda ei enw yn golygu methu anadlu, ac os unwaith y ceir ef, bydd y sawl a'i ca yn dueddol iddo yn barhaus, hyd oni chaffo feddyginiaeth a'i hetyl. Pan fyddo un dan yr afiechyd hwn, hawdd iawn yw ei adnabod wrth ei arwyddion; canys ymrwyfa y dioddefydd gyda'i holl egni am ei wynt, ac weithiau deil ei afael yn ffyrnig mewn cadair, neu unrhyw ddodrefnyn a ddigwyddo fod yn agos iddo. Y mae y teimlad o fygiad yn ofnadwy, a bydd y genau, y llygaid a'r ffroenau yn llawn agored pan fyddo un yn cael ei afael. Pryderus a chystuddiol yw yr agwedd a geir arno pan fyddo y caethdra mor ddrwg, fel y newidia gwedd ei wyneb chwyslyd a gwelw. Ei ymdrechion i anadlu a achosant swn cynhyrfus tu fewn i'r frest. Gall dyn barhau fel hyn am ychydig funudau, neu gall fod yn y cyflwr hwn am ddau neu dri diwmod. Ar ôl i'r ymosodiad fyned heibio, efallai na theimlir dim oddi wrtho am ysbaid o amser, ac yn wir caiff ryddhad oddi wrtho hyd oni wna rhywbeth a'i cynnyrcha drachefn. Y Feddyginiaeth orau at yr afiechyd yw llosgi pwdr Himrod ac anadlu ei fŵg, neu rhydd smocio "Cigars de joy" fwy o ryddhad i rai. Os y ceir allan y gwir achos ohono, y ffordd orau i atal yw ymgadw oddi wrth bethau ag sydd â thuedd ynddynt i'w gynhyrchu. Cyfarfyddais â gwraig glaf unwaith, yr hon oedd yn dioddef yn arswydus oddi wrth ddiffyg anadl, fel y bu rhaid ei rhoddi o dan ddylanwad Chloroform er cael rhywfaint o lonyddwch oddi wrtho." Dyma sylwadau y Dr D.G. Evans yn ei lyfr, Cynghorion Meddygol a Meithriniad y Clafa gyhoeddwyd gan Hughes a'i Fab, Wrecsam yn 1898. Fe ddywed yr awdur mai'r symbyliad i'w ysgrifennu oedd, "Nid oes yr un llyfr yn yr iaith Gymraeg i'ch cyfarwyddo pan fo un dan unrhyw anhwylder corfforol". Mae hefyd yn honni mai hwn oedd y llyfr meddygol Cymraeg cyntaf i gael ei gyhoeddi ar gyfer lleygwyr. Gwaetha'r modd, nid yw'r honiadau hyn yn ddilys. Ymddangosodd nifer o