Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

lyfrau meddygol wedi eu cyfieitnu o Saesneg i'r Gymraeg cyn 1898. Un o'r rhai cynharaf oedd "Pob dyn ei Physygwr ei hun yn cynnwys Arwyddion o Rhan fwyaf o GLEFYDAU ag y mae dyn yn ddarostyngedig iddynt, ynghyd â Chynghorion rhagddynt", addasiad o lyfr Saesneg Dr Theobald a gyhoeddwyd "trwy orchymyn ei ddiweddar uchelradd Wiliam Duwc o Cumberland", chwedl Gwilym Lleyn. Fe'i hargraffwyd yng Nghaerfyrddin gan Ioan Ross yn 1771. Nid llyfr Dr Evans oedd y cyntaf i gael ei ysgrifennu yng Nghymraeg yn wreiddiol ychwaith, dichon mai yn y Byd Newydd y digwyddodd hynny. Cyhoeddodd Dr H. Ll. Williams, meddyg Cymraeg yn Efrog Newydd ei "Meddyg Teulu" yn 1851, ac fe'i hargraffwyd gan E.E. Roberts, 2 Heol Seneca, Utica. Graddiodd Dr Williams yn M.D. o Goleg Meddygol Syracuse, ac ef oedd cofnodydd Cymdeithas Feddygol Talaith Efrog Newydd. Yr hyn a'i symbylodd i gyfansoddi'r llyfr oedd fod miloedd o Gymry yn yr Unol Daleithiau, a nifer ohonynt heb fod yn hyddysg mewn Saesneg, ac felly dan anfanteision enbyd, yn enwedig yn eu diffyg gwybodaeth am lysiau meddyginiaethol brodorol. Daeth gwybodaeth am y rhain i raddau helaeth drwy ddiwylliant yr Indiaid Cochion, a chyda treigliad amser daethant yn rhan bwysig o Pharmacpeau America. I ddychwelyd at Cynghorion Meddygol a Meithriniaid y Claf, nid oes iddo rinweddau arbennig, ac mae'r orgraff a'r ymdriniaeth ieithyddol yn fregus. Er hynny, cafodd ei Ie ar silff lyfrau llawer o gartrefi Cymru ar ddechrau'r ganrif hon, efallai fod sôn am y Chelsea Pensioner at gryd cymalau, neu'r rysaít gwneud Potes Troed Llo wedi ychwanegu at ei boblogrwydd. Nid oes amheuaeth fod Dr David Griffith Evans yn feddyg galluog. Roedd yn feddyg yn Llanrwst pan gyhoeddodd ei lyfr Cymraeg. Derbyniodd ei addysg feddygol ym Mhrifysgol Caeredin, a graddiodd yn MB a CM yn 1883. Cafodd radd o MD gan ei hen brifysgol yn 1888. Treuliodd gyfnod yn 1885 fel ffisigwr preswyl yn Inffirmari Dinbych. Yna ar ôl cyfnod byr yng Nghefn y Bedd, Wrecsam ymfudodd i Fetws-y-coed, cyn sefydlu ym Mod Gwynedd, Llanrwst. Tra yng nghyffiniau Wrecsam roedd yn feddyg i lofa, ac yn ddarlithydd brwd i Gymdeithas Ambiwlans St Ioan. Roedd hefyd yn aelod o Gymdeithas Feddygol Wrecsam. Cyhoeddodd nifer o erthyglau yn y Lancet, "The duodenum as a syphon-trap" yn 1888, "On some cases treated with strophanthus Hispidus" 1888, "A test for freshness of eggs" 1889. Yn yr un flwyddyn ceir erthygl o'i waith ar "Strophanthus Hispidus in heart disease" yn yr Yearbook of Treatment 1889. Mae'n ymddangos fod ganddo ddiddordeb arbennig mewn afiechyd y galon, ac yn y Cynghorion Meddygol mae'n dyrannu gofod helaeth i ddisgrifio anatomeg a phatholeg yr organ hon. Yr oedd triniaeth at asma yn gyfyngedig iawn yn y ganrif ddiwethaf, nid oedd cyfeiriad at effedrin, er fod Ma huang yn ddull effeithiol iawn o drin clefyd gwair ac asma yn China ers miloedd o flynyddoedd. Nid yw Osler yn gwneud unrhyw gyfeiriad ato, er fod y planhigyn wedi ymddangos yn gyson