Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

MYFYRDOD TROSGYNNOL Dr Gareth Wyn Owens Yn y flwyddyn 1966 yr oedd fy nhad yn blismon ym Mangor a minnau yn fachgen ysgol, ac mae gennyf gof ohono yn dod adref ar ôl diwrnod hir o waith a datgan "na welodd erioed ffasiwn 'lol botch' Y rheswm am y datganiad yma oedd ei fod wedi treulio diwrnod hir o waith yn ymdrechu i gadw'r heddwch gyda'i gyd-heddweision gan fod y Beatles wedi dod i'r Coleg Normal, Bangor i wrando ar y Maharishi Mahesh Yogi yn rhoi sgwrs ar Fyfyrdod Trosgynnol. Mae'n rhaid i minnau gyfaddef mai hyn oedd fy marn innau hefyd hyd at ryw bedair mlynedd yn ôl pan ddechreuais ymddiddori yn y maes hwn. Er i mi gymeryd agwedd wyddonol, feddygol, ac yn wreiddiol ddrwgdybus, at y dull yr wyf o'r farn fod ganddo lawer i'w gynnig i'n cleifion ac efallai i ninnau fel meddygon hefyd. Mae'r dull ei hun yn deillio o'r llenyddiaeth Vedic sydd a'i wraidd yng Ngogledd India ac yn arbennig yn nyffryn y Ganges. Mae'r llenyddiaeth yma yn mynd yn ôl tua 4000 o flynyddoedd Cyn Crist, ac o hwn y datblygodd crefydd yr Hindu ac athroniaeth Buddhism. Un enghraifft o'r lenyddiaeth hon yw llyfr o'r enw y Bhagavad Gita. Mae yn cynnwys o gwmpas 700 o emynau sydd yn sôn am sut i ddarganfod yr hunan, ac o'r llyfr hwn y mae cyn feistri y Maharashi wedi datblygu y dull o Fyfyrdod Trosgynnol. Mae rhwydwaith eang o ganolfannau Myfyrdod Trosgynnol wedi datblygu ar draws y byd, a bellach mae 3.5 miliwn o bobl wedi eu hyfforddi yn y dull tua 160,000 ym Mhrydain Fawr, gan gynnwys 700 o feddygon. Mae cysylltiad agos rhwng Myfyrdod Trosgynnol â meddygaeth Ayur Ved, meddygaeth sydd â phwyslais ar driniaeth naturiol. Hefyd, o'r mudiad Myfyrdod Trosgynnol y ganwyd Plaid y Gyfraith Naturiol (NLP), sydd bellach yn cystadlu ym mhob etholiad, nid yn unig ym Mhrydain Fawr ond hefyd yn Ewrop, Awstralia, yr Unol Daleithiau a Chanada. Os oes unrhyw berson â diddordeb mewn dysgu Myfyrdod Trosgynnol mae rhaglen o hyfforddiant wedi ei darparu ar ei gyfer, ac yn dilyn y patrwm fel â ganlyn: Darlith ragarweiniol 1 awr Darlith baratoawl Cyfweliad personol 15 munud Hyfforddiant personol 1 awr 3 sesiwn adolygu. Mae'r hyfforddiant yma yn digwydd dros gyfnod o 10 diwrnod ac mae'n bosibl cael adolygiad pellach mewn cyfarfodydd sy'n cael eu cynnal yn fisol. Yr Athro yng Ngwynedd yw Mr Gwyndaf Evans ac fe ellir cysylltu ag ef ar y rhif ffôn canlynol: 0695 272018. Ei gyfeiriad yw: