Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ADOLYGIAD: Howel Gwyn of Dyffryn and Neath Dr Tom Davies Un o sylfaenwyr a hoelion wyth y Gymdeithas Feddygol yw awdur y llyfr hwn. Ymysg diddordebau a gweithgareddau'r cyn-seiciatrydd o Gastell Nedd mae ymchwilio i hanes meddygaeth, hanes lleol ac yn ddiweddar y swydd fel Ysgrifennydd Is-Bwyllgor Llên Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Castell Nedd a'r Cyffiniau. Prin iawn felly y ceid neb mwy addas a chymwys i gloriannu a chofnodi hanes un o wleidyddion amlycaf ardal Nedd. Go brin hefyd y gellid fod wedi dewis gwell goddrych i ysgrifennu amdano, gan fod holl elw gwerthiant y llyfr yn mynd i gronfa'r Eisteddfod sydd i'w chynnal yn yr ardal dan sylw. Wedi darllen teitl y llyfr, roeddwn yn disgwyl cofiant o hanes un dyn, sef Howel Gwyn. Cefais hyn a llawer mwy. Mae hanes y tirfeddiannwr a'r gwleidydd wedi ei gofnodi yn llawn ac yn fanwl iawn. Ond fel mae pob un ohonom ni yn ran o gymdeithas a theulu, ac yn ymateb i'r dylanwadau oddi allan, felly hefyd Howel Gwyn. Nid fel ffigwr ynysig wedi cyrraedd o unlle y'i cofnodwyd, ond yn hytrach fel ymestyniad naturiol o'i deulu a'i dylwyth, yn gig a gwaed yn ei gyd-destun cyflawn. Cawn ddyfnder o gyfeiriadau at gysylltiadau rhyng-deuluol ac at berthynas ei gyndeidiau â'u cyfoedion, gan gychwyn yn yr unfed ganrif ar bymtheg. Yna mae'r hanesion yn plethu a gweu drwy'i gilydd dros ddau ganrif gan adeiladu i roi cefndir coeth a thrylwyr i ymddangosiad y Bonheddwr Howel Gwyn. Teimlais ar y dechrau fy mod yn boddi yn y môr o enwau a dyddiadau, megis "War and Peace", heb fedru dirnad arwyddocâd pob unigolyn yn y darlun. Ond o edrych yn ôl, roedd yn ychwanegu at yr ymdeimlad o'r oes, a bod personoliaeth pob unigolyn yn ddibynnol ar fyrdd o ddylanwadau. Rhaid cofio hefyd mai un pwrpas llyfr fel hwn yw cofnodi ffeithiau hanesyddol a dyna'n union a geir. Yn ddiau mae'r llyfr hwn yn datgelu cryn dipyn mwy na hanes y bonheddwr Howel Gwyn. Mae'n gofnod difyr o fywyd yn Nedd a'r cyffiniau yn y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Er enghraifft ceir llawer cyfeiriad at hynt a helynt gweinyddiaeth drefol a sirol, ac o daliadau a chostau cyfreithwyr y cyfnod. Ym 1838 rhoddodd Howel Gwyn wobr o 1 Gini yng nghystadleuaeth y traethawd yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Y testun perthnasol i'r ardal oedd "Y defnydd o lo anthraseit yng ngwneuthuriad haearn". Ond roedd y cyfreithiwr diwylliedig hwn wedi rhoi amod, sef bod rhaid i'r enillydd wneud cyfieithiad Saesneg iddo! Byddai'n hawdd i gyfrol fel hon fod yn ddiflas i ddarllenydd nad yw'n