Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

hanesydd, ond mae'r awdur wedi llwyddo i greu a chynnal diddordeb mewn amryw o ffyrdd. Mae'n defnyddio dyfyniadau o gofnodion, ac ambell atgynhyrchiad o lythyrau gwreiddiol er enghraifft llythyr at Howel Gwyn A.S. ym 1852 gan y Prif Weinidog Benjamin Disraeli. Mae ganddo hefyd nifer helaeth o luniau sy'n ychwanegu at yr amrywiaeth. Fe ddywed y Sais "Art conceals Art" ac yn wir mae hyn yn berthnasol yma. Mae'r ddawn o gofnodi hanes unigolyn yng nhyd-destun ei gyfoedion, ei gyndeidiau a'i gymdeithas yn gofyn mwy na phroses mecanyddol o ail gyhoeddi dyddiadau. Teimlaf bod yr awdur, tra'n gwneud ei waith ymchwil trwyadl, wedi edrych ar y byd drwy lygad Howel Gwyn ac wedi rhoi ei hun yn esgidiau'r gwleidydd arbennig hwn. Tybiaf y bydd y gyfrol o ddiddordeb arbennig i unrhyw un sydd â chysylltiad â'r ardal neu'n ymhyfrydu yn hanes ein gwlad. Dr Nia Owain Huws