Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

NEWROPATHI YMbTEBOL IASID FFOLIG Dr Tom E. Parry Er fod anhwylderau nerfol o ddiffyg fitamin B12 yn gyfarwydd ers blynyddoedd ni sylweddolwyd hyd yn ddiweddar y gall niweidiau cyffelyb ddigwydd hefyd o ddiffyg asid ffolig. Sylweddolwyd yn gynnar, er y gallai asid ffolig wella'r gwaed, ni allai rwystro dirywiad cyfunol isdost madruddyn y cefn mewn achosion o anemia Addison, yn wir, mae'n prysuro'r cymlethdod hwnnw. Felly casglwyd fod asid ffolig yn andwyol i'r system nerfol. Honnir mewn gwerslyfr safonol diweddar ar Hematoleg, ar wahân i newritis perifferol, mai nodweddion diffyg fitamin B12 ac nid diffyg asid ffolig yw cymlethdodau nerfol anemia megaloblastig (2). Er hynny, mae sawl sylw yn tystio i'r gwrthwyneb. Y pwysicaf o'r rhain yw y niweidiau nerfol difrifol a welir mewn cleifion sy'n dioddef o gamsugniad cydenedigol asid ffolig o'r perfeddyn ac mewn anhwylderau metabolaeth asid ffolig; mewn enceffalopathi difrifol a achosir gan methotrocsad, gwrthwynebydd cryf i asid ffolig mewn triniaeth lewcemia meningeaidd (3); ac mewn effaith arbedol asid ffolig rhag namau y bibell newrol yn y ffetws ar feichiogaeth. (4) Mae crynhoad asid ffolig hefyd yn weddol uchel yn yr ymennydd, a'i lefel yn yr hylif cerebrosbinol (17-41 /ig/1) ddwywaith y lefel yn y serum (normal 7-20 /ag/1, ymylol 3-6 ILgm/l, ac yn y celloedd coch 160-640 /xgm). Awgryma hyn eto fod i asid ffolig ran sylweddol ym metabolaeth yr ymennydd (5). Diddorol felly oedd darganfod mewn un astudiaeth annormalau nerfol mewn dwy ran o dair o hanner cant o gleifion yn dioddef o ddiffyg fitamin B12, a'r un gyfran mewn tri-deg pedwar gyda diffyg asid ffolig. (7) Anhwylderau cydenedigol asid ffolig Camsugniad cydenedigol asid ffolig Arafwch meddyliol difrifol, dirdyniadau, atacsia ac ysgogiadau athetoid gydag anemia megaloblastig o ddyddiau mebyd yw nodweddion y cyflwr etifeddol anghyffredin hwn a gofnodwyd gan Luhby yn 1961. (8) Dim ond deuddeg achos sydd wedi eu cofnodi, deg ohonynt mewn genethod. (13) Mae yna hefyd nam mewn cludo asid ffolig ar draws y barier gwaed/ymennydd yn y cleifion hyn. Amsugniad asid ffolig yn unig sydd yn ddiffygiol. Mae astudiaethau amsugniad sylweddau eraill, archwiliadau pelydr X ar y perfeddyn a biopsi o'r jejenwm i gyd yn normal. (8,9,10) Trafodir isod ddau glaf a ddioddefasant newritis perifferol pan esgeuluswyd y driniaeth. (Trosiad ac addasiad o erthygl arall gan yr Awdur yw cynnwys yr erthygl hon. Dymuna'r Awdur ddiolch i Olygydd yr European Journal of Medicine am ganiatâd i'w throsi a'i chyhoeddi yn Cennad.)