Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

O HANES MEDDYGAETH YN GLAF AC YN IACH: PROFIAD CYMRY'R DDEUNAWFED GANRIF* Yr Athro Geraint H. Jenkins Fe hoffwn ddechrau gyda dau ddyfyniad, y naill gan 'Y Pêr Ganiedydd' a'r llall gan 'Llywelyn Ddu o Fôn', dau Gymro disglair a oedd yn bur wahanol i'w gilydd o ran credo grefyddol a chenhadaeth ddiwylliannol, ond dau serch hynny a oedd â diddordeb affwysol ym maes y meddyg. Uchelgais William Williams Pantycelyn ar un adeg oedd bod yn feddyg a phetai Lewis Morris, yr heipocondriac pesychllyd a blonegog, wedi cofrestru yn un o'i gleifion ef byddai wedi anobeithio'n llwyr. Nid oes fawr neb mwyach, am wn i, yn darllen epig fawr Pantycelyn, sef Theomemphus (1764), cerdd hirfaith a llafurus ar lawer ystyr, ond tua diwedd y gerdd ceir darn hynod ddiddorol pan ymddengys Angau ar y llwyfan a rhestru'r fflangellau a oedd ganddo yn ei feddiant clefydau a heintiau a oedd yn gallu ysgubo trueiniaid i'w bedd cyn eu hamser: yr hen Gonswmsiwn truan, y Rheumatis cynddeiriog, Ffit yr Apoplexy a'r Palsy marw a'r Epilepsi Cwinsi a'r Colic, y garreg yn yr aren, y Dropsi fawr gwmpasog, yr Hippocon a'r Sterics a'r Splin y Jaundis du, y Pleuris, y Cryd poeth, Durton dridiau a'r Peripneumoni. Darn o lythyr yw'r ail ddyfyniad a anfonwyd gan 'Y Tew' at ei frawd Richard ym mis bach 1760. Sôn y mae am ei dylwyth a'i weision a'i anifeiliaid yng Ngheredigion: Wele, dyma drefn fy nhylwyth i yn ddyn ac yn anifail. Myfi a'm gwraig yn pesychu am y mwyaf; Jenny my little girl in a chin-cough; Sion y Defaid (y bugail) in a violent cough and a swelled head, bled this morning; Sion y Gwartheg (nid cowmon sydd y wlad yma) in a intermitting fever, had a vomit last night and voids worms, and coughs much; Will y Grifft, a cold in his head, can hardly speak; Arthur yr amaeth aradr yn cyfarth fel llew; y forwyn fach a chlowyn (a flegmon) yn nghepil ei morddwyd Dewisais ddechrau'r ddarlith â'r ddau ddyfyniad hyn nid yn gymaint er mwyn peri i chi disial a pheswch a chrafu ond er mwyn eich atgoffa fod afiechyd a haint yn rhan o brofiad beunyddiol pobl yn y ddeunawfed ganrif. The Age of Agony yw'r teitl a roes Guy Williams ar gyfrol yn ymwneud ac (*Traddodwyd sylwedd yr ysgrif hon gerbron Ysgol Undydd Adran Ethnoleg Urdd y Graddedigion yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan, ar 23 Ebrill 1994.)