Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

O HANES MEDDYGAETH DAVID WILLIAM WILLIAMS ARLOESWR MEDDYGAETH GYMRAEG Dr R. Elwyn Hughes Ac eithrio'r wybodaeth a gofnodir yng nghyfrolau'r Medical Directory yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ychydig iawn a wyddys am fywyd David William Williams. Bu'n astudio meddygaeth yng Ngholeg y Drindod, Dulyn yn ail hanner y pedwar-degau gan raddio yn MRCS (Lloegr) yn 1847 ar ôl ennill nifer o wobrau am deilyngdod ei waith yno. Yn fuan wedyn (yn 1850) cawn ef yn gweithio ym Mhorthaethwy, Ynys Môn, ac yno y bu am ugain mlynedd, yn llawfeddyg i'r 'Anglesea District, Bangor and Beaumaris Union'. Ei gyfeiriad yn 1862 oedd 'Church Street, Beaumaris'. Yn 1858 enillodd y radd o M.D. ym Mhrifysgol Andreas Sant, yn yr Alban, ac yn 1870 daeth yn MRCP. Yn 1869 cyhoeddodd bapur yn y Lancet 'Description of an improved splint for the lower extremities' ac yn 1875 fe'i disgrifiodd ei hunan fel 'Inventor of the Universal Extension Splint'. Mae paragraff olaf ei bapur ar y sblint yn dadlennu ei ddirmyg at feddyg esgyrn anghymwysedig megis, mae'n debyg, meddyg esgyrn Môn: To conclude: shortening or any other deformity is rendered almost a matter of impossibility with ordinary care, thus depriving bonesetters and their abettors, which are not a few, of the extreme felicity of chuckling at the practitioner's failure a frequent result, however, of their own malpractice, but which, with accustomed proclwity for quackery in general, the public so readily ignores Ond yn bwysicach na hyn (o safbwynt hanes meddygaeth Gymraeg, fodd bynnag) oedd ei lyfryn 'Geni a Magu: sef llawlyfr y fydwraig a'r fag-wraig' a argraffwyd 'dros yr awdur' gan Humphreys, Caernarfon yn 1867/8 (Llun 1). Ymddengys mai'r awdur ei hun ac nid y cyhoeddwyr oedd yn gyfrifol am werthu'r llyfr a cheir troednodyn i'r Rhagymadrodd sy'n cadarnhau hyn 'Cyfeirir pob archiadau am y Llawlyfr fel hyn:- D.W. Williams, M.D., Menai Bridge, Anglesey.' Hyn, sy'n rhannol gyfrifol, efallai, am brinder copiau o'r llyfr arloesol hwn nis enwir gan na Chatalog y Llyfrgell Brydeinig na chan Cule yn ei Medicine in Wales ac ni fedd y Sefydliad Wellcome gopi ychwaith. Mae gan y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, fodd bynnag, gopi. Roedd nifer o lyfrau meddygol a lled-feddygol gan feddygon proffesiynol ar gael yn y Gymraeg erbyn 1867. Cafwyd cyfieithiad Cymraeg o lyfr Richard Reece yn 1816 a'i ddilyn yn 1831 gan gyfieithiad o lyfr tra phoblogaidd William