Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AGWEDDAU AR GYFFURIA U Dr John S. Davies Os oes thema i'r sgwrs, yna trafodaeth fydd gyda ni ar y modd cyfredol o ddarganfod a dylunio cyffuriau sydd mor bwysig erbyn hyn ymhob agwedd o feddygaeth, ac efallai ateb y cwestiwn ai hap a damnwain sy'n dal i fodoli yn y maes? A chydag ymddiheuriadau i Syr T. H. Parry-Williams: Cyffuriau Beth yw'r ots gennyf i am Gyffuriau? Damwain a hap Yw ein bod yn eu libart yn byw. Nid yw rhain ar fap? Ac mi glywn feddygon Cymru'n brwydro 'mlaen Duw a'n gwaredo, ni allwn ddianc rhag rhain. Generic Anhysbys Mae'n anodd dweud faint o gyffuriau sydd yn ffrwyth dylunio molecylau â chyfrifiadur yn unig. Mae'n llawer mwy tebygol taw arf ychwanegol yw'r cyfrifiadur i ganolbwyntio ar strwythur teuluoedd o folecylau, a chanllaw i fedru rhidyllu'r goreuon. Yn lle synthesu cannoedd o gemegau newydd gellir yn awr ganolbwyntio ar arweiniad a ddaw oddi wrth ddyluniad cyfrifiadurol. Ond yn fwy ami daw'r arweiniad am gyffur newydd o strwythur molecwl mae natur yn barod wedi ei berffeithio at y gwaith. Gweddnewid molecwl sydd yn barod wedi profi'n actif o ffynhonnell naturiol, fel planhigion neu feicrobau, a'i wneud yn fwy addas fel cyffur yw'r ffynhonnell fwyaf ffrwythlon yn y diwydiant fferyllol. Heddiw, mae darganfod, ac yna prosesu'r cyffur i'r fferyllfa yn broses hir, gymleth a drud. Mae eisiau rhyw ddeng mlynedd o amser i berffeithio cyffur sy'n bodloni'r gwahanol bwyllgorau diogelwch, ac sy hefyd yn dangos ychydig iawn o sgîl-effeithiau. Amlinellir y prif gamau yn Ffrâm 1. Felly prif bwyslais y sgwrs fydd trafod esiamplau o gyffuriau gweddol ddiweddar sydd wedi eu datblygu, o arweiniad a ddaeth yn wreiddiol o wybodaeth am fanylion a mecanwaith byd natur. Enghraifft 1. Datblygu Cyffur Gwrth-lidus i wella ar Briodweddau Asbirin. Bu asbirin ar gael fel fferyllyn ers 1890, pan ddarganfuwyd, gan gemegydd yn gweithio i gwmni Bayer yn yr Almaen, fod asid asetylsalisylig yn lladdwr poen ac yn gostwng tymheredd. Er mai hap a damwain oedd darganfod y molecwl penodol hwn, roedd craidd strwythur y molecwl (sef asid salisylig) wedi ei ddarganfod yn yr helygen ac ym Mrenhines y Waen (Spirea ulmaria). Yn Ffrâm 1.1 amlinellir y cysylltiad cemegol yn y teulu a'r ffordd y gwneir y cyffur heddiw.